Estynnir gwahoddiad i fusnesau a phreswylwyr Ceredigion fynegi barn ar Strategaeth Economaidd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y sir.

Mae Hybu Economi Ceredigion: Strategaeth i Weithredu 2020-2035 yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni twf economaidd cryf, cynaliadwy a chydnerth ar gyfer Ceredigion dros y 15 mlynedd nesaf.

Strategaeth sy’n canolbwyntio ar ffyniant economaidd hirdymor y sir yw hon, gyda gwaith ymgynghori helaeth wedi’i wneud â phobl dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r strategaeth hefyd wedi rhoi ystyriaeth fawr i effaith pandemig Covid-19 ar fusnesau ac economi’r sir, ac mae’r cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru er mwyn ystyried camau gweithredu i ymateb i’r goblygiadau uniongyrchol hynny ar economi Ceredigion.

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion gasglu barn busnesau a phreswylwyr am y mesurau a nodir yn y Strategaeth, ac mae eich safbwyntiau yn bwysig i helpu i lywio dyfodol yr economi leol.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn hynod ymwybodol o’r effaith mae Covid-19 yn cael ar ein heconomi yng Ngheredigion, a’r heriau fydd ger ein bron wrth ddelio ag effeithiau Brecsit. Byddwn yn parhau i weithio fel Cyngor gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i gefnogi ein busnesau yn y cyfnod yma, ond mae hefyd yn bwysig i ni osod ein strategaeth yn glir i alluogi twf hirdymor yn ein heconomi. Dyna pam ‘rydym yn awyddus i glywed safbwytiau busnesau, mudiadau a thrigolion Ceredigion fel ein bod yn gallu gweithredu mewn partneriaeth i greu dyfodol ffyniannus.”

Mae’r strategaeth hefyd yn cefnogi Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2017-2022 i hybu’r economi

Gellir cyflwyno sylwadau cyn canol nos ar 29 Ionawr 2021 trwy ddilyn y ddolen hon: Ymgynghoriad y Strategaeth Economaidd. Gellir hefyd cyflwyno sylwadau trwy’r post a chael yr ymgynghoriad mewn fformat arall trwy gysylltu â’r Tîm Perfformiad ac Ymchwil, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UE, neu trwy e-bost clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad adborth yn cael ei lunio a’i gyhoeddi ar ein gwefan.

08/12/2020