Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau cymdeithasol yng Ngheredigion ar ddechrau mis Mai.

Pwrpas yr archwiliad sicrwydd yw gweld pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn parhau i helpu oedolion, gofalwyr, plant a theuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn ac edrych ar eu cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd y gwasanaethau yn y dyfodol.

Bydd yr archwiliad sicrwydd yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae’r Awdurdod Lleol yn darparu gwasanaethau ac yn cefnogi pobl i gadw eu hunain yn ddiogel a hybu eu llesiant eu hunain.

Bydd AGC hefyd yn ystyried pa mor dda y mae’r Awdurdod Lleol yn cyflawni ei swyddogaethau statudol o ran cadw pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt yn ddiogel, a hyrwyddo eu llesiant, yn ystod y pandemig. Yn ogystal, byddant yn ystyried pa mor dda y mae’r Awdurdod Lleol yn atal yr angen i blant gael eu derbyn i'r system gofal; ac a yw plant yn dychwelyd adref i'w teuluoedd yn ddigon cyflym, lle y mae'n ddiogel iddynt wneud hynny.

Maent am glywed am eich profiad chi o ofyn am wybodaeth, cyngor a chymorth, a byddant yn ceisio deall y gwahaniaeth y mae cael gwasanaethau wedi ei wneud i chi neu i'ch teulu.

Ni fydd yn rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol a gallwch aros yn ddienw. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi gwybod am rywun sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae dyletswydd gan AGC i rannu'r wybodaeth ag eraill er mwyn atal niwed pellach.

Ar ddiwedd yr archwiliad sicrwydd, bydd AGC yn rhannu’r canfyddiadau â'r Awdurdod Lleol er mwyn ystyried gwelliannau.

Mae eich barn yn bwysig a gallwch gyfrannu at yr archwiliad dros y ffôn neu drwy alwad fideo trwy ffonio 0300 790 0126. Neu, gallwch gwblhau’r arolwg hwn: Archwiliad Sicrwydd AGC

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, gallwch anfon neges e-bost at AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru

Mae fersiynau Hawdd eu Deall hefyd ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/

23/04/2021