Mae galw am aelodau newydd i fod yn rhan o Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion.

Sefydlwyd Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion yn 2002, yn unol â gofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r Fforwm wedi dod i ddiwedd ei gyfnod tair blynedd gyfredol, ac mae trefniadau ar waith i benodi aelodau newydd.

Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill sy’n gweithredu swyddogaethau’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ynglŷn â darparu gwell mynediad i’r cyhoedd at dir yn yr ardal ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal. O dan y gyfraith, mae’n rhaid bod y cyrff hynny’n rhoi sylw i gyngor perthnasol y mae’r Fforwm yn ei roi.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio penodi aelodau newydd i’r Fforwm a gall ymgeiswyr â diddordeb gwneud cais i gael ei ystyried i fod yn aelod hyd 02 Gorffennaf 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, “Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am aelodau newydd i ffurfio’r Fforwm Mynediad Lleol newydd, a fydd yn rhedeg am gyfnod o dair blynedd. Os ydych chi’n berson sy’n fodlon chwarae rhan gyflawn ymhob agwedd ar waith y Fforwm ac yn gallu helpu rhoi cyngor ar wella mynediad i’r cyhoedd at dir yn yr ardal ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal, efallai chi yw’r person perffaith i fod yn rhan o’r Fforwm newydd.”

Am fwy o wybodaeth ar sut i geisio a chael eich ystyried i fod yn aelod, ewch i dudalen ‘Apwyntiad Fforwm Mynediad Lleol 2018 – 21’ yma.

04/06/2018