Gall pobl nawr archebu slot i fynd i nofio ym mhwll Prifysgol Aberystwyth tra bo gwaith adeiladu yn parhau yng Nghanolfan Hamdden Plascrug.

Swimmer in Aberystwyth University's swimming pool

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ddiolchgar iawn i'r Brifysgol am eu cymorth wrth i ni wneud gwaith hanfodol ar Ganolfan Hamdden Plascrug cyn y gellir ei ailagor.

Yn y cyfamser, gall pobl fanteisio ar nifer o slotiau ar gyfer defnydd cymunedol yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol o ddydd Llun, 28 Mehefin 2021, ymlaen.

Bydd sesiynau nofio i'r teulu, 60+ a nofio mewn lonydd ar gael. Bydd pob sesiwn yn awr o hyd gyda 45 munud yn y pwll a bydd mynediad i'r dŵr am chwarter wedi’r awr.

Ar gyfer nofio mewn lonydd, bydd y pwll yn cael ei rannu yn bedair lôn, gyda dwy lôn ar gyfer nofwyr cyflym a dwy arall ar gyfer defnydd hamdden.

Yn ystod y sesiynau nofio i'r teulu, bydd y pwll yn cael ei rannu yn bedwar pod. Rhaid i oedolyn fod yn bresennol gyda phlentyn o dan 4 oed ar drefniant 1 i 1, a rhaid i oedolyn fod gyda phlant o dan 8 oed hefyd, gydag uchafswm o ddau blentyn i bob oedolyn.

Bydd angen i chi archebu eich slot ymlaen llaw drwy fynd i wefan Ceredigion Actif i lawrlwytho ffurflen archebu. Byddwch yn gallu archebu dros y ffôn yn fuan. Ni chaniateir galw heibio.

Canllawiau COVID-19 i nofwyr

Mae’r coronafeirws yn parhau’n fygythiad i'n cymunedau ac rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion yn y sir. O ganlyniad, gofynnwn i bawb ddilyn y rheolau i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Darllenwch y canllawiau COVID-19 i nofwyr ar wefan Ceredigion Actif cyn mynd i nofio. Bydd y wefan hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr amserlenni a’r oriau agor.

25/06/2021