Mae gweithdy aelodau wedi clywed y gall Ceredigion fod yn arweinydd yn y sector bwyd-amaeth yn y dyfodol. Cynhaliwyd y gweithdy yn Siambr y Cyngor ar 30 Ebrill.

Clywodd y cynghorwyr gyflwyniadau gan rai o brif leisiau'r sector bwyd-amaeth o bob rhan o Gymru. Buont yn trafod arallgyfeirio mewn amaethyddiaeth a sut y gellir defnyddio amgylchedd rheoledig i wella cynnyrch.

Cynhaliwyd trafodaethau hefyd ar ddyfodol y diwydiant prosesu bwyd, ac ar redeg busnesau bwyd-amaeth yng Ngheredigion.

Clywodd y cynghorwyr sut y gellid defnyddio tir ac asedau'r cyngor yn wahanol i gefnogi'r sector bwyd-amaeth yng Ngheredigion yn y dyfodol.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio. Dywedodd; “Mae amaethyddiaeth yn ganolog i economi a chymunedau Ceredigion. Gall y sir hon ffynnu yn y dyfodol os bydd busnesau a sefydliadau yn edrych ymlaen gydag uchelgais a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.”

“Mae gan y sir hon hanes o arloesi yn y sector bwyd-amaeth, ac mae ganddi'r potensial i fynd lawer ymhellach.”

30/05/2019