Ar 30 Gorffennaf 2019, cymeradwywyd ffioedd a argymhellwyd ar gyfer lleoliadau yng nghartrefi gofal sector annibynnol Ceredigion ar gyfer pobl hŷn am y cyfnod o 2019 i 2020.

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i bennu ffi o £580 yr wythnos ar gyfer gofal preswyl a £619 ar gyfer gofal preswyl dementia. Bydd £592 yn cael ei godi bob wythnos am ofal nyrsio a £630 am ofal nyrsio dementia. Mae’r rhain yn ffioedd sy’n cael eu talu i gartrefi gofal annibynnol gan y cyngor i leoli pobl hŷn sydd angen cymorth mewn cartrefi gofal.

Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn gorfodi’r cyngor i gael mecanwaith i drafod costau a pherfformiad gyda darparwyr gofal annibynnol. Mae angen i’r drefn o bennu ffioedd ystyried costau darparwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn ogystal â ffactorau arall sy’n dylanwadu ar gostau.

Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Cartrefi Gofal Ceredigion i ddeall ac ymateb i’r pwysau cost a deimlir gan y farchnad cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio. Mae’r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod sector cartrefi gofal cynaliadwy sy’n datblygu yn y sir i adael i drigolion Ceredigion aros yn eu cymuned beth bynnag yw eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r Cabinet wedi cytuno i gynyddu’r ffioedd 4% y flwyddyn. Seiliwyd hyn ar yr angen i dalu costau cyflogau a phensiwn cynyddol, ac effaith y newid yn y trothwy isaf o £40,000 i £50,000. Cytunodd y cyngor hefyd i newid ei bolisi ar gyfer talu am leoliad am gyfnod o amser ar ôl marwolaeth preswylydd.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y gwasanaethau i oedolion, "Mae’n bwysig bod y cyngor yn cael y cydbwysedd cywir bob blwyddyn, gan osod ffioedd sy’n gosteffeithiol tra’n cefnogi gofal o ansawdd uchel, gan gadw mewn cof y pwysau cost y mae ein darparwyr yn profi.”

Mae’r penderfyniad hwn yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y cyngor i fuddsoddi yn nyfodol y bobl ac i alluogi cydnerthedd unigol a theuluol.

15/08/2019