Hwylusodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, brosiect gyda disgyblion i greu ffilm fer yn focysu ar godi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch ar-lein rhwng pobl ifanc, i amlygu ac i annog trafodaeth am y risgiau o gwmpas y camddefnydd o Snapchat yn benodol.

Creuwyd y ffilm ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelwch 2017, i gydfynd gyda thema benodol Ceredigion sef diogelwch seibr. Mae'n dangos esiampl o bwlio seibr, pwysau gan gyfoedion ac effeithiau niweidiol y gall rhannu delweddau anaddas ar y cyfryngau cymdeithasol achosi i rywun.

Dyweddodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Ar ran y Cyngor, cymeradwyaf y gwaith caled a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a oedd yn rhan o'r ffilm hon o'r dechrau, gan drafod syniadau, ysgrifennu'r plot, actio, ffilmio a golygu'r ffilm derfynol. Mae'r ffilm fer hon yn cwmpasu'r math o fwlio a all ddeillio o gamddefnyddio rhai o'r apiau sydd ar gael yn hawdd ac yn cael eu defnyddio gan nifer fawr o bobl heddiw, yn enwedig pobl ifanc. Drwy ddarparu'r adnodd hwn i sefydliadau addysgol ledled Ceredigion, bydd yn galluogi cyfleoedd i bobl ifanc drafod y materion a amlygwyd yn y ffilm ac archwilio ffyrdd o oresgyn a lleihau nifer y sefyllfaoedd tebyg sy'n digwydd. Diolch i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion a phawb a oedd yn gysylltiedig â gwneud y ffilm hon.”

Cynlluniwyd y ffilm i gael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol o fewn Ysgolion Uwchradd, Hyfforddiant Ceredigion Training a Choleg Ceredigion. Mae DVD o’r ffilm ar gael am ddim i’r sefydliadau yma, ar gael trwy gysylltu â Lowri Evans, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 01545 572 352 neu lowri.evans@ceredigion.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y pynciau sydd wedi eu hamlygu yn y ffilm, unrhyw bryderon, neu os hoffech wybod mwy am Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, ewch i’r wefan, http://cysur.cymru/cartref/.

16/01/2018