Ar 6 Ionawr 2021 yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth, pasiodd yr Ynadon ddedfryd ar Mr. Toby Holland o Faesgwyn, Blaenporth wedi iddo gael ei ganfod yn euog, yn ei absenoldeb, o 10 cyhuddiad yn ymwneud â throseddau sy’n gysylltiedig â Lles Anifeiliaid a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.

Yn dilyn y treial ar 3 Chwefror 2020, cyhoeddwyd gwarant llys ar gyfer arestio Mr. Toby Holland mewn cysylltiad â'r troseddau hyn, a chafodd ei arestio gan yr Heddlu ym mis Rhagfyr 2020.

Yn y treial a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2020, clywodd y Barnwr Rhanbarth fod Swyddogion Lles Anifeiliaid tîm Diogelu'r Cyhoedd wedi ymweld â'r fferm ar 29 Ionawr 2019 ac wedi canfod nifer o faterion yn ymwneud â lles anifeiliaid. Canfuwyd dafad yn gorwedd ar ei chefn nad oedd yn gallu symud ac roedd yn amlwg ei bod wedi bod yno ers peth amser. Er y gofynnwyd i Mr Holland geisio cymorth milfeddygol ar gyfer yr anifail, yn ystod ymweliad y diwrnod canlynol canfuwyd ei fod wedi methu â cheisio triniaeth i'r anifail a'i adael i farw. Fe'i cafwyd yn euog am ddioddefaint diangen y ddafad hon.

Daeth y Swyddogion Lles Anifeiliaid o hyd i ysgubor a oedd yn cynnwys 19 o foch. Wrth weld y swyddogion, roedd y moch yn gwichian am fwyd. Roedd y moch yn denau iawn ac nid oedd man gorwedd sych ar gael iddynt oherwydd bod baw wedi cronni yn eu man cadw. Yn y lloc, roedd dau fochyn marw o fewn cyrraedd y moch byw. Canfu post-mortem o un o'r moch marw fod yr anifail yn debygol o fod wedi marw o newyn ar ôl canfod nad oedd unrhyw fraster wrth gefn yn y carcas.  

Daeth y Milfeddyg o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a ymwelodd â’r fferm i'r casgliad bod y moch marw a’r moch byw wedi dioddef yn ddiangen, a chanfuwyd Mr Holland yn euog o'r troseddau hyn. Fe'i cafwyd yn euog hefyd o fethu â diwallu anghenion yr anifeiliaid drwy fethu â darparu man gorwedd sych ar gyfer y moch. 

Yn ystod yr ymweliad ar 29 Ionawr 2019, canfuwyd hefyd nifer o garcasau defaid wedi'u gwasgaru ar draws y caeau. Roedd yn amlwg eu bod wedi bod yno ers peth amser, a bod gan y defaid byw fynediad i'r un cae. Canfu'r Barnwr Rhanbarth fod Mr Holland yn euog o fethu â gwaredu'r carcasau yn unol â gofynion hysbysiad a gyflwynwyd o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014.

Yn ystod ymweliad dilynol ar 30 Mai 2019, canfuwyd bod y moch yn cael eu cadw mewn cae lle’r oedd ganddynt fynediad at fagiau plastig, dalennau metel gydag ymylon miniog, ac esgyrn a phenglogau anifeiliaid. Gallai’r eitemau hyn achosi niwed i foch, ac fe’i cafwyd yn euog o beidio â darparu amgylchedd addas i’r moch o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Roedd carcasau defaid yn y caeau yr oedd Mr Holland wedi methu â’u casglu a'u gwaredu yn unol â gofynion cyfreithiol. Fe'i cafwyd yn euog o drosedd bellach o dan y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.

Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 18 wythnos o garchar am y troseddau, a chafodd orchymyn anghymhwyso rhag cadw unrhyw anifeiliaid am ddwy flynedd. Dyfarnwyd £750 o gostau i'r Awdurdod Lleol.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd. Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd: "Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yng Ngheredigion yn dilyn arferion ffermio rhagorol sy'n sicrhau'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid. Yn anffodus, mae’n rhaid inni ddelio â lleiafrif sydd am ba reswm bynnag yn methu â bodloni safonau cyfreithiol sylfaenol. Hoffwn ddiolch i'r asiantaethau partner a gynorthwyodd yr awdurdod yn ystod yr ymchwiliad, a'r swyddogion am eu gwaith caled wrth ymdrin ag achos anodd."

11/01/2021