Ar 10 Gorffennaf, ymddangosodd Dylan Williams o Neuaddlwyd Uchaf, Neuaddlwyd, Ciliau Aeron o flaen yr ynadon yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth lle cafodd ei ddedfrydu am droseddau yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a lles anifeiliaid.

Roedd Mr Williams, sy’n 47 oed, wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberystwyth yn flaenorol gan bledio'n euog i’r pedair trosedd yr oedd Cyngor Sir Ceredigion wedi’u dwyn gerbron y llys.

Ar 11 Ebrill 2018, darganfuwyd 47 o garcasau defaid a oedd mewn gwahanol gyflyrau dadelfennu ar dir Mr Williams, ac roedd defaid byw a’u hŵyn ifanc yn gallu eu cyrraedd yn hawdd. Dyma oedd sail yr achos a gyflwynwyd o dan y Rheoliadau Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid sy’n ei gwneud yn ofynnol i waredu carcasau heb oedi di-angen, oherwydd y risg i iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd.

Roedd rhan fwyaf y ddiadell a archwiliwyd ar y diwrnod wedi colli eu gwlân ac roedd eu croen yn crafu ac yn cosi’n boenus sy'n arwydd o’r clafr. Mae'r clafr yn gyflwr gwanychol sy'n gallu achosi i ddefaid golli pwysau a datblygu croen trwchus gyda chrachod oherwydd y cosi di-baid ac anghyfforddus a achosir gan y cyflwr.

Cyflawnwyd tair trosedd ar wahân o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ac roedd dwy o'r troseddau hyn yn ymwneud ag achosi dioddefaint diangen i ddwy famog. Roedd un o’r mamogiaid yn dioddef o wendid difrifol oherwydd y clafr. Cafwyd hyd i famog arall yn anymwybodol ar y tir gyda'i choluddion yn dod allan o'i hochr. Mae’n debygol fod hyn wedi digwydd o ganlyniad i ysglyfaethu gan ei bod hefyd wedi dioddef o'r clafr dros gyfnod estynedig.

Roedd trosedd arall yn ymwneud â’r ffaith nad oedd Mr Williams wedi sicrhau bod anghenion lles ei ddiadell wedi eu diwallu gan nad oedd wedi archwilio ei ddiadell yn ddigonol a thrin y clafr yn effeithiol.

Rhoddodd yr Ynadon ddedfryd o orchymyn cymunedol i Mr Williams a oedd yn cynnwys gofyniad ei fod yn cyflawni 250 awr o waith di-dâl yn y gymuned. Gorchmynnwyd hefyd iddo dalu costau’r ymchwiliad a chostau cyfreithiol y Cyngor sef cyfanswm o £1648.

Dywedodd Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros Bolisi a Pherfformiad, “Mae’n peri tristwch mawr i’r Cyngor bod trosedd ddifrifol arall wedi’i chyflawni yn y sir ym maes iechyd anifeiliaid. Mae’n glod i’n staff eu bod wedi erlyn yr achos hwn yn llwyddiannus.

Nid oedd gan ein swyddogion lles anifeiliaid a’n tîm cyfreithiol unrhyw ddewis ond bwrw ymlaen â’r erlyniad oherwydd difrifoldeb y troseddau a gyflawnwyd. Byddwn yn annog ffermwyr unigol sy’n wynebu anawsterau wrth ofalu am eu stoc i geisio cyngor y CyngorSir â’r Undebau Amaeth.”

18/07/2019