Mae’r Cynghorydd Paul Hinge wedi’i ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2021-2022 mewn Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Gwener 14 Mai 2021.

Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Gareth Davies fel Cadeirydd i ben, lle mae wedi llywio’r Cyngor drwy gyfnod heb ei debyg yn sgil pandemig y coronafeirws.

Ar ôl cael ei ethol yn Gadeirydd, derbyniodd y Cynghorydd Paul Hinge y swydd ac anerchodd y Cyngor gan ddweud bod dod yn Gadeirydd y Cyngor yn anrhydedd fawr. 

Yn wreiddiol o Aberteifi, mae’r Cynghorydd Paul Hinge bellach yn byw yn Bow Street ac mae’n cynrychioli ward Tirymynach ar Gyngor Sir Ceredigion. Ef hefyd yw Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, ac mae wedi ymgyrchu’n helaeth dros hawliau cyn-filwyr ar hyd y blynyddoedd ag yntau’n gyn-filwr ei hun.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion: “A minnau’n blentyn a aned yn Aberteifi sawl degawd yn ôl bellach, ni allwn erioed fod wedi rhag-weld y byddwn yn ysgwyddo un o rolau dinesig etholedig uchaf yn fy sir enedigol fel yr wyf yn ei wneud heddiw; mae hon yn foment balch iawn yn fy mywyd. Hoffwn ddiolch i’m cyd-gynghorwyr am ymddiried ynof i ymgymryd â’r rôl hon ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd i ddod. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i’r Cynghorydd Gareth Davies am ei waith diflino mewn cyfnod mor anodd y llynedd, mae wedi bod yn anrhydedd i fod yn Is-gadeirydd iddo. Edrychaf ymlaen yn awr at fod yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.”

Etholwyd y Cynghorydd Ifan Davies o ward Lledrod yn Is-gadeirydd y Cyngor. Penodwyd y Parchedig Richard Lewis yn Gaplan i’r Cadeirydd ar gyfer 2021-2022.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Paul Hinge ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Sir a dymuno rhwydd hynt iddo yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, hoffwn ddiolch yn gynnes i’r Cynghorydd Gareth Davies am lwyddo mor ddeheuig i lywio cyfarfodydd rhithiol y Cyngor mor hwylus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Holi’r Cyn-gadeirydd

Y Cynghorydd Gareth Davies, ward Llanbadarn Fawr Padarn, oedd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ystod 2020-2021. Dyma daro golwg yn ôl ar ei flwyddyn yntau a oedd yn wahanol iawn i’r arfer yn sgil yr holl gyfyngiadau a’r addasiadau.

Sut brofiad oedd bod yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion yn ystod cyfnod y pandemig?

Roedd yn brofiad go anarferol o gymharu â’r blynyddoedd a fu. Wrth gwrs, nid oedd neb yn rhag-weld sut effaith y byddai’r pandemig yn ei gael ar ein bywydau, na chwaith y byddai’n para mor hir. Rydym ni oll wedi gorfod addasu’r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio. Roedd yn dipyn o siom na chefais y cyfle i gynrychioli’r sir mewn unrhyw ddigwyddiad swyddogol yn ystod fy nghyfnod. Fel un sydd â chysylltiadau ag ardal Tregaron, roedd hi hefyd yn drist clywed am ohirio’r Eisteddfod Genedlaethol. Ond, wedi dweud hynny, rwy’n falch ofnadwy fy mod yn byw yng Ngheredigion lle mae effeithiau’r pandemig wedi bod ymhlith y gorau yn y Deyrnas Unedig.

Beth oedd yr her fwyaf?

Yr her fwyaf oedd dysgu sut i gadeirio cyfarfod yn rhithiol. Gan fod mwy na hanner cant o bobl yn bresennol, nid oedd hi’n bosibl i weld pawb ar yr alwad ar yr un pryd. Roedd yn rhaid i bawb arall ddysgu hefyd wrth gwrs, ac, o ganlyniad, roedd y cyfarfodydd yn cymryd ychydig yn hirach na’r arfer. Rwy’n gobeithio fod aelodau’r Cyngor yn meddwl fy mod wedi bod yn Gadeirydd teg a bod pawb wedi cael y cyfle i siarad os oeddynt yn dymuno gwneud hynny. Mae pawb yn ymdopi â’r system yn dda iawn erbyn hyn.

Beth oedd y peth gorau am eich profiad?

Rwy’n ystyried fy hun yn freintiedig iawn, ac yn hynod o falch fod aelodau etholedig Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi’r cyfle i mi ac ymddiried ynof i fod yn Gadeirydd. Ni throdd y flwyddyn allan fel yr oeddwn wedi disgwyl. Ond mae diogelwch ac iechyd trigolion Ceredigion yn llawer pwysicach nag unrhyw beth arall.

Beth yw eich neges i’r Cadeirydd newydd?

Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y caiff y Cadeirydd newydd gyfle i wneud cyfiawnder â’r swydd, a hoffwn ddymuno’n dda iddo ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

14/05/2021