Cafodd estyniad newydd ei agor yng Nghylch Meithrin Llangeitho ar 04 Medi. Ariannwyd yr estyniad yn bennaf trwy grant Cymunedol y Cyngor a grant o’r Loteri Genedlaethol.

Bydd estyniad newydd Cylch Meithrin Llangeitho yn eu galluogi i wella eu cyfleusterau yn sylweddol a hefyd i gynyddu’r nifer o lefydd gofal plant sydd ar gael. Agorwyd yr estyniad newydd gan Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Hag Harris.

Ariannwyd yr estyniad trwy gyfuniad o gyfraniadau codi arian lleol yn ogystal â Grant Cymunedol y Cyngor o £15,000 a grant o £10,000 o’r Loteri Genedlaethol. Mae cyfraniadau arall yn cynnwys £400 o’r Mudiad Meithrin, £150 o Gyngor Cymuned Lledrod a £4,800 a godwyd gan Gylch Meithrin Llangeitho ei hun.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Mae Cylch Meithrin Llangeitho wedi gallu gwneud defnydd effeithiol iawn o Grant Cymunedol y Cyngor a chyllid arall i wneud ychwanegiad gwerthfawr i’w Cylch. Dw i’n siŵr y bydd y plant yn edrych ymlaen at weld yr estyniad newydd a byddent yn cael budd mawr o’r lle ychwanegol.”

Pwrpas Cynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion yw cynyddu’r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn Ceredigion. Gall pob cais gael ei wobrwyo â hyd at grant uchafswm o lai na 50% o gostau’r prosiect neu’r gost sydd angen i ariannu diffyg y prosiect hyd at uchafswm o £25,000. Mae’r Grant Cymunedol wedi ei lunio i gefnogi cymunedau yng Ngheredigion gan ddarparu arian grant i alluogi cymunedau i ariannu’r gweddill eu hunain neu trwy sicrhau arian arall neu gyfatebol o ffynhonnell arall.

Dywedodd Graham Parker, Cadeirydd Cylch Meithrin Llangeitho, “Mae hyn wedi bod yn enghraifft wych o godi arian lleol wedi ei gefnogi gan Grantiau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion a’r Loteri genedlaethol ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at gronfa’r estyniad. Bydd hyn yn darparu budd anferth i’r gymuned leol gan ddarparu cyfleusterau i’r plant, cynyddu’r nifer o lefydd gofal plant sydd ar gael i rieni a hefyd trwy gynyddu cyfleoedd cyflogaeth leol.

Mae Cylch Meithrin Llangeitho yn un o nifer o ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru fel darparwyr o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru a lansiwyd ar 1 Medi yng Ngheredigion. Mae’r cynnig o ofal plant sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gael i rieni a gwarchodwyr cymwys o blant tair a phedair oed sy’n gweithio am hyd at 30 awr yr wythnos a bydd ar gael am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. Dylid rhieni sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer y cynnig ymweld â gwefan y Cyngor ar www.ceredigion.gov.uk/CynnigGofalPlant.

 

 

04/09/2018