Mae prosiect sydd wedi bod yn cefnogi dysgwyr ysgol uwchradd sy’n agored i niwed i wella eu presenoldeb, eu cyrhaeddiad a’u hymddygiad yng Ngheredigion wedi cael £1,545,213 ychwanegol ac wedi’i ymestyn hyd at fis Rhagfyr 2022 ar ôl i arian Ewropeaidd pellach gael ei ddyfarnu.

Menter a ariennir gan Ewrop yn Rhanbarth De Orllewin Cymru yw prosiect Cynnydd. Mae perfformiad y prosiect hyd yn hyn wedi cael ei gydnabod gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Roedd i fod i ddod i ben ym mis Chwefror 2019. Oherwydd ei lwyddiant, penderfynwyd y bydd y prosiect yn rhedeg hyd at ddiwedd 2022.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Bydd unrhyw gyfnodau o amser sy’n cael ei dreulio y tu allan i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael effaith negyddol sylweddol ar fywydau pobl ifanc. Mae ymyrraeth prosiect Cynnydd yn ffactor arwyddocaol tuag at leihau’r risgiau hyn yng Ngheredigion. Rwy’n falch iawn o benderfyniad Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn y cyfnod tan fis Rhagfyr 2022.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio ar brosiect Cynnydd i gefnogi pobl ifanc 11 i 18 oed sydd â’r perygl mwyaf o ymddieithrio gydag addysg neu hyfforddiant ledled y sir.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Ddysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Yn aml mae gan y bobl ifanc hyn rwystrau sylweddol a niferus rhag cyfranogi, cyfrifoldebau domestig neu amgylchedd bregus yn y cartref, problemau o ran camddefnyddio sylweddau, neu hanes o ymddygiad troseddol. Mae prosiect Cynnydd yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac asiantaethau arbenigol lle bo’n briodol i ddarparu ymyrraeth ddwys neu raglenni cymorth wedi’u teilwra i ailgysylltu’r bobl ifanc hyn â’u dysgu a’u cymunedau.”

Mae prosiect Cynnydd wedi cefnogi 334 o ddysgwyr i gynnal addysg ac i ennill cymwysterau lefel 1 neu 2 a gydnabyddir yn genedlaethol. Cyflawnwyd hyn trwy ddarparu cwricwlwm amgen a mentrau mentora dwys.

Mae’r prosiect yn ddarpariaeth allweddol sy’n cefnogi Ceredigion i gyflawni’r canrannau blynyddol isaf o ddisgyblion blwyddyn 11 sy’n gadael ysgol nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Mae 100% o’r dysgwyr a gefnogir yn mynd i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar ôl gadael y prosiect, gyda 96% yn cadw eu swydd 6 mis yn ddiweddarach.

18/12/2018