Bu 29 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i’r casgliadau sbwriel y cafodd eu trefnu gan Gyngor Sir Ceredigion yn ystod mis Chwefror. Rhoddwyd cyfanswm o 55 awr gan y gwirfoddolwyr i gasglu sbwriel a gwastraff o’r traethau, coedwigoedd ac o warchodfeydd natur ledled Ceredigion.

Dywedodd Rachel Mills, Swyddog Diogelu’r Amgylchedd, Cyngor Sir Ceredigion, “Diolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr i gyd a wnaeth ddod i helpu gyda’r casgliadau sbwriel yn ystod mis Chwefror. Er gwaethaf yr eira a’r gwyntoedd cryf, casglwyd bron cwarter tunnell o wastraff (245kg) o bedwar gwahanol leoliad. Mae hyn yn swm arwyddocaol o wastraff a gyda help y gwirfoddolwyr, gallwn ni weld bod cam cadarnhaol wedi’i wneud er mwyn helpu gwella’r amgylchedd o’n cwmpas. Bydd casgliadau sbwriel yn parhau yn ystod mis Mawrth, gyda chroeso cynnes i bawb. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth.”

Mae’r digwyddiadau yn cael eu hwyluso gan swyddogion Cyngor Sir Ceredigion sydd yn darparu offer codi sbwriel yn ogystal a diodydd twym a byrbrydau.

Dyma ddigwyddiadau mis Mawrth:
• Traeth Borth ag Ynyslas ar 15 Mawrth rhwng 10yb a 12yp. Ger adeilad y YHA yw’r man cwrdd.
• Coedwig Llwyn yr Eos, Penparcau ar 22 Mawrth rhwng 11yb a 1yp. Mynedfa Coedwig Llwyn yr Eos yw’r man cwrdd.
• Llwybr Ystwyth, Bont Pen-y-bont i Glan yr Afon ar 27 Mawrth rhwng 12yp a 2yp. Y gilfan lle mae’r llwybr yn cwrdd â Heol-y-bont, ger Morrisons yw’r man cwrdd.

Anogir gwirfoddolwyr i wisgo dillad addas. Am rhagor o fanylion, i gymryd rhan mewn digwyddiad sydd wedi ei drefnu, neu os hoffech drefnu digwyddiad eich hun ac eisiau benthyg offer codi sbwriel, ffoniwch Rachel Mills ar 07870 275241 neu e-bostiwch Rachel.Mills@ceredigion.gov.uk.

12/03/2018