Mae prosiect partneriaeth i ddarparu Canolfan Adnoddau Integredig yn Nhregaron – Cylch Caron - wedi'i atal dros dro. Fodd bynnag, dywed partneriaid eu bod wedi’u hymrwymo o hyd i wneud gwelliannau i fodel gwledig gofal cymunedol a thai yn yr ardal.

Mae Bwrdd y Prosiect wedi gwneud y cyhoeddiad ar ran y tri phrif bartner - Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru (sydd bellach wedi'i hymgorffori yng ngrŵp tai Barcud).

Roedd y prosiect i fod i ddarparu meddygfa un safle ar gyfer meddygon teulu, fferylliaeth gymunedol, clinigau cleifion allanol, cyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â thai gofal ychwanegol. Er gwaethaf ymdrech sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf i ystyried opsiynau eraill o ran maint a chynllunio, ni fu'n bosibl cyflwyno cynllun gofal ychwanegol arfaethedig ar gyfer Tregaron sy'n ariannol hyfyw o fewn y cyllid cyfalaf a refeniw sydd ar gael.  

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd y Prosiect, Peter Skitt, ar ran yr holl bartneriaid: “Mae hyn yn destun gofid mawr, ond yn gam angenrheidiol nawr fel y gall pob un ohonom ail-ganolbwyntio ar ddatrysiad cyraeddadwy i’r gymuned yn Nhregaron a’r cyffiniau.  Bydd y cyngor a'r bwrdd iechyd yn gwneud asesiadau brys o unrhyw ddatrysiadau dros dro y gallai fod angen eu gweithredu wrth i ni adeiladu cynllun hirdymor.” 

Meddai Prif Weithredwr Grŵp Barcud, Steve Jones, “Mae datblygu cynllun tai gwasanaeth ac iechyd cymunedol arloesol ar y cyd mewn ardaloedd gwledig anghysbell fel Tregaron yn heriol, o ran cyflawni cynllun cynaliadwy, prisiau adeiladu wedi’u tendro sy’n fforddiadwy, a chostau gweithredol hyfyw. Gwnaed ymdrechion sylweddol gan bob un o’r partneriaid, gan weithio gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gwleidyddion lleol, a busnesau’r gymuned, i geisio cyflawni cynllun ariannol hyfyw i alluogi darparu gwasanaethau lleol a chartrefi hygyrch yn Nhregaron. Yn anffodus, ni fu’n bosibl cyflawni cynllun ariannol hyfyw ar y safle arfaethedig presennol.”   

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym wedi ymrwymo i brosiect Cylch Caron fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a byddwn yn parhau i ystyried amryw opsiynau eraill ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn ardal Tregaron.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Yr uchelgais yn ein strategaeth ddeng mlynedd yw model cymdeithasol integredig ar gyfer iechyd. Mae cynlluniau fel Cylch Caron, a'r rhai rydym eisoes wedi'u cyflawni mewn rhannau eraill o Geredigion, yn bwysig i ni gyflawni hyn. Ni fyddwn yn colli golwg ar y nod hwn a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r cyngor a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ddatrysiad sy'n iawn i'r gymuned hon.

Mae'r tri sefydliad partner yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol, ochr yn ochr â chartrefi fforddiadwy hygyrch o safon; a byddant yn parhau i weithio gyda'r cynrychiolwyr cymunedol lleol yn Nhregaron, a Llywodraeth Cymru, i archwilio ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaethau a'r cyfleusterau hyn.

07/12/2020