Cymeradwywyd eithriad Treth y Cyngor ar gyfer y rheiny sy’n gadael gofal hyd at 25 oed gan y Cyngor ar 20 Medi 2018.

Ar 01 Ionawr 2018, roedd gan Gyngor Sir Ceredigion 32 o bobl ifanc sy’n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed yn byw yn annibynnol ac o'r rhain, roedd tua 6 yn atebol i dalu Treth y Cyngor. Ystyriodd a chymeradwyodd y Cyngor bolisi ar gyfer pobl sy'n gadael gofal sydd wedi'u heithrio rhag Treth y Cyngor, o dan Adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cronni dyled Treth y Cyngor. Bydd Rhyddhad Treth y Cyngor ar gyfer y rheiny sy’n gadael gofal ar gael o ddechrau blwyddyn ariannol 2018/19.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, “Mae plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn hytrach na'u rhieni ymhlith y grwpiau mwyaf bregus yn ein cymuned ac mae rhianta corfforaethol yn swyddogaeth statudol y Cyngor. Felly, rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi’r rheiny sy’n gadael gofal gyda'r eithriad rhag talu Treth y Cyngor hyd at 25 oed fel y cynigir gan Gymdeithas Plant (Cymru).”

Yn ôl adroddiad gan Gymdeithas y Plant yn 2015 (The Wolf at the Door. How council tax debt collection is harming children) awgrymir fod y rheiny sy’n gadael gofal yn grŵp sy’n agored iawn i ddyledion Treth y Cyngor. Bu i’r adroddiad ddarganfod pan fydd y rheiny sy’n gadael gofal yn symud i mewn i lety annibynnol ac yn dechrau rheoli eu harian eu hunain yn llawn am y tro cyntaf ei fod yn heriol iawn iddynt, yn enwedig os nad ydynt yn talu eu Treth y Cyngor ar amser a’r ddyled yn cynyddu.

Bu i adroddiad Cymdeithas y Plant wneud sawl argymhelliad gan gynnwys sicrhau bod y rheiny sy’n gadael gofal yn gymwys am ostyngiad mewn Treth y Cyngor. Nodir y byddai hyn o gymorth i leihau’r pwysau cychwynnol ar y sawl sy’n gadael gofal ac y byddai’n cyd-fynd â nifer o drefniadau ariannol eraill sydd ar gael i gynorthwyo’r rheiny sy’n gadael gofal. Yr amcan gost o ddarparu'r gostyngiad fyddai oddeutu £2,500 y flwyddyn ar ôl ystyried gostyngiadau eraill ac eithriadau a allai fod yn berthnasol, a fyddai'n cael ei drin yn llawn gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor eisoes yn helpu rhai sy'n gadael gofal trwy'r Cynllun Lleihau Treth Cyngor (Cymorth Treth y Cyngor) trwy ddyfarnu gostyngiad prawf modd (hyd at 100%) yn atebolrwydd eu Treth Cyngor. Wrth gynnig Cynllun Rhyddhad ar gyfer y rheiny sy’n gadael gofal i Geredigion o dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, byddai unrhyw ddyfarniad ar ôl i'r eithriadau statudol priodol o ran Treth y Cyngor, gostyngiadau a Chymorth Treth y Cyngor gael eu cymhwyso.

Mae penderfyniad y Cyngor yn cyfrannu at wireddu blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o fewn y Strategaeth Gorfforaethol o fuddsoddi yn y dyfodol y bobl a Galluogi Cydnerthedd Unigolion a Theuluoedd.

24/09/2018