Gofynnir i drigolion ar draws Ceredigion, trwy ymgyrch ymgysylltu, sut y gall y Cyngor roi llais iddynt o ran cryfhau cymunedau a dylunio gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae ‘Helpwch ni i’ch Helpu chi’ yn gofyn i bobl wylio fideo gwybodaeth byr cyn ateb rhai cwestiynau. Bydd yr ymatebion a roddir yn helpu Cyngor Sir Ceredigion i gynllunio ei ddulliau o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mi fydd y Cyngor yn holi trigolion eto yn hwyrach yn y flwyddyn am unrhyw newidiadau penodol pan fyddant yn digwydd.

Mae'r fideo gwybodaeth yn rhoi rhywfaint o gefndir a chyd-destun i waith y Cyngor a'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae hefyd yn rhoi cipolwg ar ddull y Cyngor o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol sydd wedi'i llunio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Wrth inni ddatblygu ein gwasanaethau mae’n rhaid inni ganolbwyntio mwy ar y tymor hir; gweithio’n fwy effeithiol gydag unigolion, ein cymunedau a sefydliadau eraill. Mae angen i ni hefyd wneud mwy o ymdrech i atal problemau rhag codi a gwneud ein gwaith mewn ffordd fwy cydlynol. Mae’r sgwrs barhaus yma yn gyfle i ni wybod sut y gallwn ni roi llais ichi o ran cryfhau ein cymunedau a dylunio ein gwasanaethau yn y dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar dros ben pe byddech yn barod i gymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn inni allu clywed gan gymaint o drigolion â phosib.”

Mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor trwy ymweld â’r dudalen ‘Ymgynghoriadau’ ar www.ceredigion.gov.uk. Mae croeso i unigolion gysylltu â 01545 570881 os byddant yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn unrhyw fformat arall neu am gopi papur o’r arolwg. Mae’r sgwrs ar agor am sylwadau am gyfnod diderfyn.

04/07/2018