Mae egwyddorion strwythur newydd Gwasanaeth Cerdd Ceredigion yn sicrhau cyfle a chysondeb yn y dyfodol i ddisgyblion. Dyma fydd un o’r negeseuon a fydd yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu y Cyngor ar 09 Mai 2019. Bydd y Pwyllgor yn cael cyflwyniad ar strwythur newydd y gwasanaeth ac yn cael y cyfle i’w drafod a gofyn cwestiynau.

Mae’r strwythur newydd yn ail-lunio’r gwasanaeth i’w wneud yn gynaliadwy yn y dyfodol. Fel rhan o hyn, gall y gwasanaeth greu incwm ychwanegol trwy gynnig gwersi canu mewn canolfannau dydd a chynnig therapi cerddoriaeth mewn canolfannau anghenion dysgu ychwanegol.

Meinir Ebbsworth yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Ysgolion. Dywedodd, “Mae gan ein Gwasanaeth Cerdd hanes hir a llwyddiannus, ac rydym am ei weld yn ffynnu yn y dyfodol. Rydym eisiau parhau i gefnogi darpariaeth cerddoriaeth wrth wynebu'r angen i wneud arbedion ariannol sylweddol.”

Mae’r strwythur newydd yn seiliedig ar bum egwyddor:
• bod unrhyw ddisgybl yn gallu defnyddio'r Gwasanaeth Cerdd
• bod ensembles, cerddorfa a chorau yn parhau heb gost ychwanegol
• bod tîm o staff craidd yn cael eu cyflogi ar yr un telerau ac amodau cyflogaeth
• bod polisi codi tâl yn gyson ac yn deg
• Ni fydd tâl yn cael ei godi ar ddisgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, neu sy'n astudio cerddoriaeth ar gyfer TGAU neu Lefel A.
Mae rhaid i'r Gwasanaeth Ysgolion wneud bron hanner miliwn o bunnoedd o arbedion yn 2019-2021. O dan y strwythur newydd, bydd posibilrwydd o hyd at ddwy swydd yn cael eu colli.

Adiodd Meinir Ebbsworth, “Yn anffodus, mae pwysau ariannol yn ein gorfodi i ailstrwythuro’r gwasanaeth. Dyma’r peth olaf rydym eisiau gwneud ac rydym yn defnyddio’r broses ffurfiol i wneud hyn mewn ffordd deg. Mae cyllideb y cyngor wedi'i dorri £39m mewn saith mlynedd. Does gennym ni ddim dewis ond gwneud toriadau anodd ym mhob rhan o gyllideb y cyngor.

Os oes digon o alw am y gwasanaeth, bydd yr incwm yn medru cefnogi’r nifer bresennol o staff. Bydd y swm a godir yn rhesymol iawn ac yn gyfwerth â £4 y wers.”

08/05/2019