Mae adroddiad wedi cael ei lunio yn dangos effaith y Coronafeirws ar economi Ceredigion.

Nid oes unrhyw amheuaeth fod Covid-19, a’r ffaith bod rhannau o’r economi a chymdeithas wedi bod ar gau ers mis Mawrth, wedi cael effaith fawr ar economi Ceredigion. Er enghraifft, tua diwedd mis Awst, bu cynnydd o 146% yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra ers dechrau mis Mawrth (i 2,045), a chynnydd o 165% yn y rhai rhwng 18 a 24. Mae’r effaith lawn yn dal i ddod i’r amlwg, wrth i lywodraethau ar bob lefel barhau i gyflwyno mesurau i ddiogelu’r boblogaeth rhag y feirws.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio adroddiad yn crynhoi effaith y Coronafeirws ar economi Ceredigion. Mae’r adroddiad yn crynhoi yr hyn yr ydym yn ymwybodol ohoni ar hyn o bryd ar economi Ceredigion, amlinellu’r mesurau cefnogaeth sydd wedi’u cyflwyno yng Ngheredigion a nodi’r mesurau yr ydym yn cynllunio ar eu cyfer ac yn bwriadu eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r heriau y mae’r economi yn ei hwynebu.

Mae rhagor o fanylion am y mesurau arfaethedig sydd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Economaidd i’w gweld yn y strategaeth ddrafft a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 17 Mawrth 2020. Er y bydd sefyllfa’r economi wedi newid yn sylweddol ers Mawrth 2020, mae’r gwendidau sylfaenol yn yr economi yn parhau. Mae’n bosib bod y rhain wedi dod yn fwyfwy amlwg o ganlyniad i effaith y Coronafeirws.

Mae effaith y coronaferiws ar economi Ceredigion yn debygol o fod yn sylweddol. Bydd angen i'r Cyngor ystyried yn llawn sut y gall ddefnyddio ei adnoddau a'i asedau, ochr yn ochr â'i randdeiliaid i gefnogi busnesau ac unigolion i addasu.

Mae’r heriau sy’n wynebu economi Ceredigion felly yn sylweddol a bydd angen cydlynu ein hymdrechion. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda partneriaid yn y Llywodraethau ar bob lefel i alluogi’r economi i addasu ac adfer gan adeiladu ar gyfleoedd newydd fydd yn caniatáu i ddyheadau pobl ifanc yng Ngheredigion gael eu bodloni.

Bydd adroddiad Effaith y Coronafeirws ar Economi Ceredigion yn mynd tu flaen Pwyllgor Cymunedau Ffyniannus ar 22 Hydref 2020. Medrir gweld yr adroddiad yma.

16/10/2020