Mae Coleg Ceredigion, gyda chefnogaeth Cynnal y Cardi, wedi cwblhau astudiaeth ddichonoldeb gyda'r sector adeiladu yng Ngheredigion.

Design Your Future is the result of the study. It looked into identifying the skills gap and understand the needs of the local sector. It also looked at analysing and developing new methods of working to satisfy the growing demands of the industry. This was done with a view to develop a curriculum to meet the needs of the sector in Ceredigion.

Dylunio Eich Dyfodol yw canlyniad yr astudiaeth. Edrychodd i mewn i nodi'r bwlch sgiliau a deall anghenion y sector lleol. Edrychodd hefyd ar ddadansoddi a datblygu dulliau newydd o weithio i fodloni gofynion cynyddol y diwydiant. Gwnaed hyn gyda'r bwriad o ddatblygu cwricwlwm i ddiwallu anghenion y sector yng Ngheredigion.

Nododd Kevin Harrington, o Perspectif ac Antur Teifi, dri maes allweddol i gefnogi datblygiad y sector wrth symud ymlaen: Prinder sgiliau, parodrwydd ar gyfer gwaith ac adeiladu perthnasoedd.

Uchafbwynt cwblhau adroddiad Dylunio Eich Dyfodol oedd cynhadledd lle rhannwyd y canfyddiadau. Roedd hefyd yn gyfle i wahanol randdeiliaid yn y sector adeiladu rwydweithio a rhoi adborth ar sut i symud ymlaen.

Wedi'i hariannu gan Cynnal y Cardi a'i chyflwyno gan Ben Lake, A.S, roedd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr yn ymdrin ag ystod o bynciau. Roeddent yn cynnwys Tai Gwledig gan Tai Ceredigion; Adfywio yng Ngheredigion gan Gyngor Sir Ceredigion; Cyllid ar gyfer Hunan-Adeiladu gan Fanc Datblygu Cymru; Prentisiaethau gan CITB; a Phrentisiaethau Cyfrannol gan Cyfle Building Skills.

Mae trafodaethau ar gyfer y camau nesaf wedi cychwyn, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith sy'n cynnwys Rhanddeiliaid allweddol ledled Ceredigion. Mae hyn er mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau a recriwtio yn y diwydiant adeiladu. Mae hefyd angen sicrhau bod yr hyfforddiant a gynigir yn unol â thueddiadau a blaenoriaethau ehangach ar gyfer y sector.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Mae'r ymchwil o'r prosiect hwn yn bwysig iawn i'r sector adeiladu yng Ngheredigion. Mae yna elfennau llwyddiannus o gyflwyniad cyfredol y rhaglen brentisiaeth yng Ngheredigion. Fodd bynnag, mae angen gwella trwy ddull mwy cydgysylltiedig rhwng y sectorau adeiladu ac addysg. Gall adroddiad a sefydlu’r rhwydwaith greu newid cadarnhaol a sylweddol i’r sector adeiladu yn ei gyfanrwydd yng Ngheredigion a helpu i gryfhau economi Ceredigion. ”

Nod Cynnal y Cardi, grŵp Gweithredu Lleol LEADER, yw cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig. Gweinyddir y Grŵp gan Gyngor Sir Ceredigion a chyllidwyd drwy raglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan a Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae copi o’r adroddiad ar gael ar wefan Coleg Ceredigion yma.

I gael gwybodaeth am gymhwysedd cefnogaeth, cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi ar 01545 570881 neu cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

01/07/2020