Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi dyfarnu'r safon arian datblygu insport i Gyngor Sir Ceredigion; un o wyth awdurdod lleol yng Nghymru i fod wedi cyflawni hyn.

Mae'r wobr yn cydnabod agwedd gynhwysol y Cyngor at chwaraeon a hamdden. Nod pob un o'r rhaglenni insport yw hwyluso a chyflawni newid diwylliannol mewn agweddau, dull gweithredu a darpariaeth gweithgarwch corfforol (gan gynnwys chwaraeon) a chyfleoedd ehangach i bobl anabl.

Dywedodd Chwaraeon Anabledd Cymru, "Roedd cynnwys a chyd-destun yr hyn a gyflenwir, a'r angerdd, yr ymrwymiad a'r ymagwedd dryloyw at gynhwysiant yn cael eu harddangos yn gyson ym mhob elfen o'r ddarpariaeth.” Nododd y panel o feirniaid hefyd fod 'athroniaeth gynhwysol gyfoethog a oedd yn amlwg yn cael ei rhannu ar draws y tîm cyfan.’

Arweinydd y Cyngor ac Aelod Eiriolwr ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, cyflwynwyd y wobr i Ellen ap Gwynn yn ystod y Gwobrau Chwaraeon Ceredigion yn ddiweddar. Dywedodd y Cynghorydd ap Gwynn, "Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y wobr arian insport i gydnabod ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleoedd chwaraeon cynhwysol i bawb yng Ngheredigion. Byddwn yn parhau i wreiddio'r diwylliant cynhwysol ym mhob un o'n gwasanaethau cyngor. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymroddedig i sicrhau y gall ein trigolion gymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfleoedd o'u dewis. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau'n gweithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu ethos cynhwysol cynaliadwy a pharhaol; Mae insport yn allweddol i wneud i hyn ddigwydd."

Mae'r rhaglen insport yn cynnwys pedair safon gynyddol (rhuban, efydd, arian ac aur), y mae'n rhaid bodloni set o feini prawf yn eu herbyn.

Bu Gemma Cutter, Swyddog Datblygu, yn arwain y tîm tuag at ennill arian. Dywedodd, "Mae insport yn rhaglen sydd wedi galluogi'r tîm i ymateb ac adlewyrchu’n feirniadol ynghylch pa mor gynhwysol yw eu cyflwyniad. Dylai bod yn gynhwysol fod yn gyfrifoldeb i bawb ac mae insport wedi rhoi fframwaith hollbwysig i ni i gamu i'r cyfeiriad cywir, i ffwrdd o un ffynhonnell arbenigedd - i ddull tîm cyfan a fydd yn galluogi ethos cynhwysol mwy cynaliadwy.”

Mae'r Cyngor bellach yn parhau â'i daith at safon aur drwy adeiladu ar berthnasau strategol, ar draws partneriaethau mewnol ac allanol a'r gymuned ehangach gan sicrhau bod cynnig gweithgarwch corfforol ystyrlon ar gael i holl drigolion Ceredigion.

Ewch i www.ceredigionactif.org.uk neu dilynwch @ceredigionactif ar Facebook neu Twitter i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallech fanteisio ar gyfleoedd i gadw'n heini ar draws Ceredigion.

 

09/07/2019