Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal i gael barn trigolion Ceredigion ar newidiadau arfaethedig i leoliadau gorsafoedd pleidleisio yn y sir.

Mae newidiadau yn cael eu cynnig ar gyfer lleoliadau gorsafoedd pleidleisio yng Nghwm Ystwyth, Aberystwyth, Cross Inn a Thalsarn.

Mae gan y cyngor ddyletswydd i adolygu addasrwydd gorsafoedd pleidleisio yn y sir. Cynhaliwyd adolygiad o'r lleoliadau presennol ac awgrymwyd rhai newidiadau i'r lleoliadau. Bu'r adolygiad yn ystyried nifer o gwynion a wnaed yn ystod Etholiad Seneddol Ewrop ym mis Mai 2019.

Yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet ar 15 Hydref 2019, gall trigolion Ceredigion roi eu barn ar y lleoliadau a adolygwyd gorsafoedd pleidleisio.

Eifion Evans yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion a Swyddog Canlyniadau'r sir. Dywedodd: “Mae'r adolygiad hwn yn ymarfer pwysig a fydd yn rhoi gwybod i ni beth yw dewisiadau'r cyhoedd ar gyfer gorsafoedd pleidleisio'r dyfodol o amgylch y sir. Rydym am i'r profiad o bleidleisio fod mor gyfleus a hygyrch â phosibl i bob pleidleisiwr.”

Agorwyd yr ymgynghoriad ar 16 Hydref a bydd yn cau ar 4 Rhagfyr. Gall preswylwyr ddarllen y ddogfen ymgynghori ac ymateb iddi drwy ddefnyddio'r ddolen hon: www.ceredigion.gov.uk/adolygugorsafoeddpleidleisio.

Mae copïau caled ar gael yn swyddfeydd y cyngor ac mewn llyfrgelloedd.

16/10/2019