Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd.

Mae'n ofynnol i'r Cyngor i gasglu barn rhieni, gofalwyr a chyflogwyr, yn ogystal â phlant a phobl ifanc ar argaeledd darpariaeth gofal plant yn y sir ar gyfer plant 0-17 oed. Cyflawnir hyn trwy wahanol arolygon a fydd ar gael yn ystod mis Hydref.

Mae barn preswylwyr yn bwysig iawn, a hoffem wybod mwy am eich profiadau o ddefnyddio darparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac eich defnydd o gofal plant anghofrestredig fel nanis, clybiau ar ôl ysgol a rhai clybiau gweithgareddau/chwaraeon; neu i adrodd am unrhyw rwystrau i gael mynediad at ofal plant lleol.

Bydd yr ymatebion i’r arolygon yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i asesu’r farchnad gofal plant leol, ac i ddatblygu darlun realistig a chadarn o anghenion rhieni ar gyfer gofal plant nawr ac yn y dyfodol.

 Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth gyda chyfrifoldeb dros Ofal Plant: “Mae’n bwysig bod rhieni, gofalwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill – yn ogystal â phlant a phobl ifanc – yn cael y cyfle i fynegi barn. Dyma gyfle iddynt ddweud wrthym ble mae’r bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda phartneriaid priodol i ddatblygu cynllun strategaeth pum mlynedd i fynd i’r afael â’r materion a godwyd ac i ddatblygu a chefnogi gwasanaeth pwrpasol a chynhwysfawr sy’n cwrdd ag anghenion ein teuluoedd.”

I gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, gallwch fynd i'r ddolen ganlynol: Digonolrwydd Gofal Plant - Cyngor Sir Ceredigion

Bydd yr arolwg Rhieni/Gofalwyr ar gael rhwng 1 Hydref a 25 Hydref 2021.

Am wybodaeth bellach neu gopi papur o'r arolwg, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01545 570881 a gofynnwch am yr Uned Gofal Plant.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

24/09/2021