Gan ddechrau ym mis Hydref, bydd trigolion a phobl sy'n gweithio yng Ngheredigion yn gallu cyflwyno eu sylwadau drwy Facebook ar eitem ar agenda pwyllgorau Craffu.

Rôl Trosolwg a Chraffu yw edrych ar y gwasanaethau a'r materion sy'n effeithio ar bobl yng Ngheredigion. Mae'r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn goruchwylio gwaith y Cyngor gan sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau yn y ffordd orau ac er budd y gymuned leol.

Y Cynghorydd Elizabeth Evans yw’r Cadeirydd o’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu. Dywedodd: "Gall pobl eisoes gyflwyno eu barn drwy anfon e-bost at ein Tîm Craffu. Fodd bynnag, hoffem gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn rhannu eu safbwyntiau a bod yn rhan o broses Trosolwg a Chraffu'r Cyngor."

Dri diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, bydd yr agenda'n cael ei rhannu ar dudalennau Facebook y Cyngor. Gellir anfon sylwadau ar yr eitemau penodol ar yr agenda fel neges uniongyrchol ac fe'u cyflwynir yn y cyfarfod*

Parhaodd Elizabeth Evans: "Gallwch ddilyn y Cyngor ar Facebook ar @CSCeredigion, ein tudalen Gymraeg a @CeredigionCC ar gyfer ein tudalen Saesneg. Rydym am sicrhau eich bod chi, y trigolion, wrth wraidd ein polisïau a'n gwasanaethau."

Mae craffu'n chwarae rhan hanfodol yn y broses o hyrwyddo atebolrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ym mhroses y Cyngor o wneud penderfyniadau a'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau.

Os hoffech gyflwyno eich sylwadau ar eitem sydd i ymddangos ar agenda Trosolwg a Chraffu, cyflwynwch gais ysgrifenedig i siarad â’r tîm Craffu cyn gynted â phosibl, ac nid hwyrach na chanol dydd ddau ddiwrnod gwaith cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor. Gellir gwneud cais ysgrifenedig drwy anfon e-bost at scrutiny@ceredigion.gov.uk neu drwy anfon llythyr at: Trosolwg a Chraffu, y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA.

Ceir rhestr o’r hyn mae’r pwyllgorau yn mynd i’w ystyried ar wefan y cyngor

*Cyfeiriwch at wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth am Brotocol Trosolwg a Chraffu ar Ymgysylltu’r Cyhoedd.

 

04/10/2019