Yn Ionawr 2022, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion y dylid adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion er mwyn derbyn dadansoddiad ac arfarniad diweddar o’r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir.

I’r perwyl hynny, bydd holiadur yn cael ei rannu ddydd Llun 10 Hydref er mwyn casglu barn nifer fawr o rhanddeiliaid pwysig, megis disgyblion a chyn-ddisgyblion, staff, rhieni a darpar rieni a chyflogwyr.

Bydd yr holiaduron yn cael eu rhannu drwy’r ysgolion unigol yn ogystal â dudalennau cyfryngau cymdeithasol y sir, @CSCeredigion ar Facebook ac Twitter.

Wyn Thomas yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, dywedodd: “Rwy'n annog pawb sy'n cael cyfle i roi eu barn i wneud hynny, er mwyn i'r Cyngor gael trosolwg cyflawn o'r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir."

Bydd gwybodaeth a ddaw o’r holiadur, ynghyd â dadansoddiadau o ffynonellau gwybodaeth eraill, yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar gychwyn 2023.

07/10/2022