Gwahoddir disgyblion a chyn-ddisgyblion, staff, rhieni a darpar rieni a chyflogwyr i rannu eu barn ar ddarpariaeth ôl-16 yn y Sir.

Yn Ionawr 2022, penderfynodd Cabinet y Cyngor y dylid adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion er mwyn derbyn dadansoddiad ac arfarniad diweddar o’r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir.

Wyn Thomas yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, dywedodd: “Rwy'n annog pawb sy'n cael cyfle i roi eu barn i wneud hynny, er mwyn i'r Cyngor gael trosolwg cyflawn o'r ddarpariaeth ôl-16 yn y sir."

Bydd gwybodaeth a ddaw o’r holiadur, ynghyd â dadansoddiadau o ffynonellau gwybodaeth eraill, yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar gychwyn 2023.

12/10/2022