Bydd drama ‘Y Tad’ yn dod i Theatr Felinfach ar 2 a 3 Mawrth 2018. Mae’r ddrama - sydd yn ymdrîn â’r thema gyfoes, dementia – wedi ysgogi’r Theatr i gael hyfforddiant ar ddementia fel eu bod yn medru deall yn well sut gall y cyflwr effeithio eu defnyddwyr.

Mae’r ddrama’n rhan o dymor o waith i ddod gan Theatr Genedlaethol Cymru sy’n archwilio Gofal a Chymuned, i nodi’r ffaith y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed yn 2018. Bydd y cwmni’n gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys Age Cymru ac Alzheimer’s Society Cymru, er mwyn cael cyngor arbenigol i gefnogi’r tymor hwn.

Mae Y Tad yn drosiad newydd i’r Gymraeg gan Geraint Løvgreen o’r ddrama ‘Le Père’ gan Florian Zeller, ac yn waith buddugol y gystadleuaeth trosi drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Enillodd y ddrama wreiddiol Wobr Molière 2014 am y Ddrama Orau. Mae’r cynhyrchiad hyn gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio.

Wrth baratoi i gynnal y ddrama, fe gafodd staff Theatr Felinfach y cyfle i dderbyn hyfforddiant Ffrindiau Dementia. Dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata’r Theatr, “Mae sicrhau lles a mwynhad ein defnyddwyr a’n cwsmeriaid eisoes yn ganolog i’n gwaith, ond mae’r hyfforddiant wedi gwneud i ni ystyried yn fwy manwl yr effaith gall dementia gael arnynt, a’u teuluoedd.”

Perfformir ‘Y Tad’ yn Theatr Felinfach ar 2 a 3 Mawrth am 7:30yh. Cynhelir perfformiad matinée am 1:00yp ar 2 Mawrth a chynhelir sgwrs ôl y sioe yn yr hwyr. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach drwy ffonio 01570 470697 neu ar-lein www.theatrfelinfach.cymru. Tocynnau yn £11 i oedolion, £10 i bensiynwyr a £9 i blant. Cynigir gostyngiad arbennig o 10% i staff Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

Cynhyrchiad Cymraeg yw hon. Mae mynediad Saesneg ar gael trwy'r ap Sibrwd.

14/02/2018