Mae Dwyn i Gof yn ddrama ddifyr a phryfoclyd sy’n cyfuno’r dwys a’r digrif wrth sôn am bwnc cyfredol, sydd ‘ar feddwl’ pawb y dyddiau hyn, ac yn cael ei gronni yn nrama olaf Meic Povey i Bara Caws.

Yng ngeiriau dihafal Meic ei hun, “Y rheswm esh i ati i sgwennu am y pwnc penodol yma ydi hyn: O'r holl bethau all ein lladd - ac fel dywedodd yr Americanwr adnabyddus, (sic) Anthony Hopkins unwaith, ‘nobody gets out of this alive' - yn bersonol, colli dy gof ydi'r cyflwr sy'n codi mwya' o ofn arna’i.”

Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu hunig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i’w cadarnhau. Mae Huw’n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda’i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Ond pa mor fregus yw Huw mewn gwirionedd? Sut mae Bet yn ymdopi â’r sefyllfa? Oes rheswm gan Gareth i boeni am bechodau’r tadau, ac a yw Cerys yn gweld y tad yn y mab?

Dywedodd Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, “’Roedd Meic wedi gyrru’r ddrama atom llynedd, ac ‘ro’n i wrthi’n dechrau rhyw gyfathrebu ynglŷn â hi pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. ‘Roedd wedi dweud ei hun bod angen rhagor o waith arni, felly ‘ro’n i mewn cyfyng-gyngor. Yna deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin ei ferch, yn ei ffordd unigryw ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r dasg asap! - a fel ddeudodd Catrin, ‘Pwy yda ni i ignorio hynny?’ Felly dyma ni! Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio, ond bydd hi - fel bob tro - yn fraint.”

Mae pob un o aelodau’r cast yn wynebau cyfarwydd iawn ar lwyfannau ac ar y sgrin sef Sara Gregory, Gwenno Elis Hodgkins, Rhodri Meilir a Llion Williams.

Bydd Dwyn i Gof yn Theatr Felinfach ar Nos Fercher, 24 Hydref am 7:30yh. Mae tocynnau yn £12 i oedolion, £11 i bensiynwyr a £10 i blant a myfyrwyr ac ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 4705697 neu ewch ar-lein i theatrfelinfach.cymru.

16/10/2018