Ar ddiwrnod T Llew Jones eleni caiff sioe newydd ei lansio a fydd yn dod â llyfrau’r awdur poblogaidd yn fyw i blant ledled Cymru.

Comisiynwyd y sioe gan gwmni Mewn Cymeriad, mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Sir Ceredigion ac fe’i sgriptiwyd gan Anni Llŷn.

Mae’r sioe ar ffurf monolog gydag actores ifanc o ardal Aberteifi yn chwarae rhan Cati Wyllt, sef cymeriad dychmygol sydd wedi ei chreu o obsesiwn ein ‘hactores’ gyda’r awdur T. Llew Jones . Mae Nia James newydd raddio gyda gradd MA mewn Theatr o Brifysgol Cymru y Drindod  Dewi Sant yng Nghaerdydd ac yn gyn aelod o gwmni perfformio CICA yn Aberteifi.

Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru.

Dywedodd Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Mewn Cymeriad: “Fel Cardi, ac un oedd wrth fy modd â nofelau T Llew, mae’n gymaint o bleser gallu cyflwyno sioe newydd yn seiliedig ar fywyd a gwaith T Llew Jones. Mae’r sioe yn gyffrous ac anturus, yn union fel ei nofelau, gyda chyfleoedd i blant ddefnyddio eu dychymyg a bod yn fôr-ladron neu’n arwyr dewr.”

Ychwanegodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Dathlu Diwrnod T Llew Jones ymhlith un o ddigwyddiadau pwysicaf ein calendr. Mae T Llew dal yn arwr i ddarllenwyr Cymru, ac mae gwaith yr awdur a’r athro dal yn dylanwadu ar genedlaethau o feirdd ac awduron. Pleser o’r mwyaf yw gweld y straeon antur gwych a’r cymeriadau bythgofiadwy yn codi o’r tudalennau ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd mewn ffordd greadigol ac egnïol. Edrychwn ymlaen at weld cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr brwd gwaith T Llew Jones.”

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Edrychwn ymlaen yn fawr at weld sioe Mewn Cymeriad yn dod yn fyw gan ysbrydoli ieuenctid Ceredigion a Chymru gyfan. Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r prosiect hwn sy’n lansio ar Ddiwrnod T Llew Jones.”

Ychwanegodd Non Davies, Rheolwr Corfforaethol Diwylliant, Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Adran Ddiwylliant y Cyngor Sir yn hynod falch o fedru cefnogi‘r prosiect cyffrous hwn sy’n dathlu gwaith un o awduron mwyaf adnabyddus Ceredigion a’r genedl gyfan. Yn ddiau bydd dull unigryw a chreadigol cwmni Mewn Cymeriad o gyflwyno gwaith yr awdur yn ysbrydoli ein pobl ifanc i fynd ati i ddarganfod trysorau llenyddol T Llew Jones. Pa well ffordd i ddathlu Diwrnod T Llew Jones nag wrth lansio sioe a fydd yn ysbrydoliaeth i awduron y dyfodol.”

Bydd y sioe yn rhan bwysig o arlwy adnoddau ysgolion Ceredigion ar gyfer dathlu Diwrnod T Llew Jones eleni. Crëwyd gwefan arbennig gan staff Gwasanaeth Ysgolion y sir gydag ystod eang o weithgareddau ac adnoddau dysgu wedi eu seilio yn benodol ar fywyd a gwaith T Llew Jones i ddisgyblion eu mwynhau. Rhwng y rhain a sioe Mewn Cymeriad gallwn fod yn hyderus y bydd T Llew Jones a’i lyfrau yn fyw yn nychymyg ein disgyblion am genedlaethau i ddod. 

Bydd y sioe symudol hon ar gael i deithio ysgolion Cymru o 11 Hydref ymlaen.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Eleri Twynog, Mewn Cymeriad: eleri8@icloud.com

 

11/10/2021