"Mae Cofrestru Sifil yn wasanaeth hanfodol sy'n effeithio ar bawb ar ryw adeg yn eu bywydau. Felly, rydym mewn sefyllfa i allu helpu eraill yn ystod cyfnodau allweddol yn eu bywydau, o achlysur llawen fel genedigaeth, dathlu priodas neu bartneriaeth sifil a'r amser anodd ac emosiynol o gofrestru marwolaeth rhywun annwyl.” - Rhiannon Pugh, Cofrestrydd Arolygol a Rheolwr Gwasanaeth Cofrestru, ynghyd â Menna Jones, Dirprwy Uwch-arolygydd Cofrestrydd a Gwyneira Edwards, Swyddog Cofrestru a Seremonïau.

Y Tîm

Menna: Dw i'n Nyrs Gymwysedig, Bydwraig ac Ymwelydd Iechyd ac roeddwn i eisiau newid gyrfa. Roedd gen i ddiddordeb mewn cofrestru a'r gwaith y mae'n ei olygu, felly pan welais y swydd yn cael ei hysbysebu, fe wnes i gais. Rwyf wedi bod yma ers pedair blynedd bellach!

Gwyneira: Ar ôl gadael yr ysgol, astudiais Gwrs Ysgrifenyddol Dwyieithog am ddwy flynedd yn y Coleg addysg bellach yn Aberystwyth. Rwyf wastad wedi gweithio mewn swyddfa. Yn fy swydd ddiwethaf cyn i ymuno â'r Cyngor, bûm yn gweithio yno am 28 mlynedd. Roeddwn yn awyddus i gael her newydd ac ymunais â'r Cyngor naw mlynedd yn ôl gyda'r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid. Symudais i Dîm y Gwasanaeth Cofrestru tua pum mlynedd yn ôl, gan ddilyn fy niddordeb mewn achau teulu a chwrdd ag amrywiaeth o bobl.

Rhiannon: Ar ôl ymarfer y Gyfraith am gyfnod byr, penderfynais fy mod eisiau newid gyrfa a chwilio am swydd a fyddai'n fy ngalluogi i ddychwelyd adref i Geredigion. Rwy'n cofio mynychu seremoni briodas ffrind flynyddoedd yn ôl a chael fy nghyfareddu gan y gwaith a wnaed gan y cofrestrydd. Felly, pan ddeuthum ar draws swydd yn cael ei hysbysebu o fewn y Gwasanaeth Cofrestru, yr oedd yn rhaid imi wneud cais.

Rwy'n lwcus iawn fy mod i wedi dod o hyd i swydd rwy'n ei fwynhau'n fawr ac rwy'n gweithio gyda thîm anhygoel. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gynnal seremonïau priodas ffrindiau a theulu, sydd wedi bod yn anrhydedd ac yn brofiad bendigedig. I mi, yr agwedd orau ar fy ngwaith yw'r cyfle y mae'n ei ddarparu i gwrdd â chymaint o wahanol bobl a chynorthwyo cyplau i gynllunio seremoni sy'n wirioneddol bersonol iddynt. Mae rhai cyplau am gael seremoni syml a phersonol iawn gydag eraill yn dewis dathliad mwy. Dwi'n sylweddoli ei bod hi'n fraint llwyr cynnal seremoni a chwarae rhan mewn diwrnod arbennig cwpl, felly bydda i'n gweithio gyda nhw i greu profiad cofiadwy.

Gwaith bob dydd

Gwyneira: Mae cymaint o amrywiaeth o dasgau gwahanol yr ydym ni fel tîm bach yn gorfod delio â nhw. Gall y gwaith fod yn anodd ac yn feichus ond ymdrechwn i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Rhiannon: Yn gyffredinol, mae pobl yn ein hystyried yn wasanaeth sydd yn delio â chofrestru statudol genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil yn unig. Er hyn, rydym yn delio â chymaint mwy. Gan ein bod yn cadw cofrestrau genedigaeth, marwolaeth a phriodasau hanesyddol Ceredigion yn dyddio'n ôl i 1837, rydym yn falch o helpu gyda chwiliadau hanes teulu a chyhoeddi tystysgrifau copi o'n cofnodion. Rydym yn mwynhau'r agwedd hon gan ei bod yn ddiddorol chwilio drwy'r cofrestrau gwerthfawr. O ran dathliadau, rydym yn cynnal ymrwymiad neu adnewyddiad o Seremonïau Haddunedau a hyd yn oed Seremonïau enwi babanod. Rydym hefyd yn cynnal Seremonïau Dinasyddiaeth, sef y cam olaf i ymgeiswyr llwyddiannus ei ddilyn wrth ddod yn Ddinasyddion Prydeinig.

Menna: Ar gyfer priodasau, mae llawer o waith paratoi yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni.

Gwyneira: Wrth gwrs, mae yna bethau ffurfiol cyfreithiol i seremonïau y mae'n rhaid i ni lynu wrthynt. Ceisiwn fod mor greadigol â phosib wrth deilwra ein sgriptiau seremoni yn ôl anghenion cwpl. Byddwn yn ystyried y rhan fwyaf o bethau a cheisiadau penodol.

Does dim diwrnod cyffredinol

Rhiannon: Mae pob diwrnod yn wahanol ac yn sicr nid yw'n swydd arferol mewn swyddfa. Misoedd yr haf fel arfer yw ein cyfnod prysuraf ar gyfer mynychu priodasau a phartneriaethau sifil gyda seremonïau sy'n gallu cael eu cynnal bob dydd o'r wythnos! Ar ddydd Sadwrn arferol efallai y bydd gennym nifer o seremonïau i fynychu. Gall hyn fod yn eithaf heriol i ruthro o amgylch Ceredigion i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd lleoliadau ar amser.

Menna: Mae agweddau gwahanol iawn i'r rôl sy'n ei gwneud yn swydd mor ddiddorol. Gan fod ein gwasanaeth yn dibynnu ar yr alwad, pwy a ŵyr beth fyddwn gwneud pan fyddwn yn dechrau ein gwaith am y diwrnod.

Gallai fy apwyntiad cyntaf fod yn cofrestru genedigaeth, ac yna apwyntiadau cofrestru marwolaeth. Yn y prynhawn efallai y bydd yn rhaid i mi adael y Swyddfa a mynd i gofrestru priodas yn rhywle arall. Er y gall y broses gofrestru fod yr un fath, mae'r profiad yn wahanol iawn gan fy mod yn cyfarfod â gwahanol bobl ar wahanol adegau yn eu bywydau.

Trefnu Seremoni?

Rhiannon: Os ydych chi newydd ddyweddïo neu angen trefnu seremoni, mae amrywiaeth o wasanaethau a lleoliadau ar gael. Gellir cynnal priodasau a phartneriaethau sifil mewn eglwysi, adeiladau cofrestredig ac yn yr ystafelloedd seremoni sydd wedi'u lleoli yn Swyddfa'r gofrestr. Mae gennym hefyd nifer o leoliadau cymeradwy sydd wedi'u trwyddedu ar gyfer priodasau sifil a phartneriaethau sifil. Mae'r lleoliadau gwych yma’n cynnwys gwestai, bwytai, Amgueddfa, Llyfrgell a hyd yn oed Clwb Rygbi. Digon o ddewis i weddu pawb.

Ar 31 Rhagfyr 2019, daeth deddfwriaeth i rym er mwyn ymestyn y ddarpariaeth o Bartneriaethau Sifil gan alluogi cyplau o'r rhyw arall i ymuno â Phartneriaeth Sifil am y tro cyntaf. 

Cysylltu

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cofrestru drwy ein ffonio ni ar 01970 633 580, e-bostio at registrar@ceredigion.gov.uk neu dewch i siarad a ni yn ein Prif Swyddfa yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth.

20/01/2020