Catrin Davies, Delor Evans a Glesni Hemming yw’r Tîm sy’n cyflwyno Cymunedau am Waith a Mwy yng Ngheredigion ac yn yr erthygl hon, maent yn siarad am eu rolau a sut maent yn cyfrannu at wneud newid cadarnhaol i fywydau pobl ledled y sir:

Glesni: Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy. Mae’n rhan o strategaeth Wrthdlodi’r Llywodraeth ac fe’i cyflwynir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’n cefnogi unigolion 16 oed neu fwy sy’n byw mewn tlodi neu sydd mewn perygl o fod yn dlawd. Gall y sawl sy’n rhan o’r cynllun fod yn wynebu tlodi er eu bod mewn gwaith, yn wynebu tlodi oherwydd diweithdra, oherwydd eu bod yn byw ar isafswm cyflog neu’n straffaglu i dalu taliadau misol sylfaenol wrth iddynt dderbyn cytundebau gwaith ysbeidiol a’r rheiny’n gytundebau dim oriau.

Catrin: Gan mai dim ond ers blwyddyn mae’r prosiect yn ei le, rydym i gyd yn gymharol newydd yn ein rolau, er bod gan bob un ohonom brofiad mewn rolau tebyg yn y gorffennol. Rydym eisoes yn teimlo i ni gael effaith gadarnhaol sylweddol drwy sicrhau cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i lawer o bobl; rydym wedi cael dros 200 o atgyfeiriadau ac wedi cefnogi 111 o bobl ers dechrau’r cynllun. Mae 28 o’r bobl rydym ni wedi eu cefnogi wedi cael swydd gyda chefnogaeth Cymunedau am Waith a Mwy.

Delor: Mae Glesni a fi’n Fentoriaid Cyflogaeth ar gyfer y prosiect. Rydym ni’n cynnal sesiynau un-i-un gydag unigolion ac yn trafod sut y gallwn eu cefnogi i oresgyn tlodi (neu leihau’r perygl o lithro i dlodi) drwy hyfforddiant, drwy wirfoddoli a thrwy gyflogaeth.
Glesni: Yr hyn sy’n wych am y prosiect hwn yw ein bod yn mynd allan i gyfarfod â’n holl gyfranogwyr mewn lleoliad sy’n agos atynt, fel nad ydynt yn gorfod gwario arian ar gostau cludiant.

Delor: Mae rhai pobl yn dod atom ni gan eu bod wedi gweld swydd y byddent yn hoffi ymgeisio amdani ond maent wedi sylweddoli nad oes sgil neu gymhwyster penodol ganddynt ac na allant wneud cais am y swydd dan sylw cyn cael y sgil honno neu’r cymhwyster hwnnw. Rydym yn eu cynorthwyo drwy ymchwilio i’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael iddynt ac fe dalwn ni am yr hyfforddiant.

Ymysg y cyfleoedd hyfforddi yr ydym wedi eu trefnu mae Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS) – adeiladu a labro, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (ADD) Goruchwylwyr Drysau, Gwarchod Plant, Gyrru Lorïau nwyddau trwm, sgiliau Technoleg Gwybodaeth, hyfforddiant llif gadwyn, Cymorth Cyntaf, Diogelwch Bwyd a mwy.

Yn ddiweddar, fe dalon ni am hyfforddiant teledu cylch cyfyng i un gŵr ac wedi iddo gwblhau’r hyfforddiant, fe gafodd e swydd yn syth fel gweithredwr teledu cylch cyfyng gyda chyflogwr lleol.

Glesni: Gan ein bod yn gallu talu costau cludiant, gallwn ad-dalu costau tanwydd y cyfranogwyr ac os yw’r hyfforddiant yn para ychydig ddyddiau ac yn digwydd y tu hwnt i’r sir, gallwn hyd yn oed drefnu a thalu am lety.

Catrin: Fi yw Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Cymunedau am Waith a Mwy ac rwy’n gyfrifol am Geredigion gyfan. Rwy’n cyfathrebu gyda llawer o fusnesau lleol ac yn trafod a oes ganddynt unrhyw swyddi gwag ac yn trafod a oes ganddynt rywbeth addas ar gyfer rhai o’n cyfranogwyr, neu a ydynt yn fodlon cynnig cyfle i rywun gael profiad gwaith mewn rôl y mae rhai o’n cyfranogwyr yn ei hystyried.
Rwy’n cysylltu gyda nifer o gyflogwyr lleol yn rheolaidd. Rydw i hefyd yn mynd at fusnesau newydd; os gwelaf swydd yn cael ei hysbysebu efallai yr af at y cyflogwr a dangos CV rhai o’r bobl sy’n rhan o’n cynllun ac esbonio beth yw’r prosiect. Rwyf wrth fy modd gyda’r elfen hon o’r gwaith, gan ein bod yn gallu cynorthwyo pobl fusnes lleol i gael yr union unigolyn sydd ei angen arnynt ac ar yr un pryd yn cynorthwyo rhywun i ddod o hyd i’r swydd ddelfrydol ar ei gyfer neu ar ei chyfer.

Delor: Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ac yn cynorthwyo pobl i ddychwelyd i fyd gwaith. Rydym wedi cynorthwyo un wraig a arhosodd gartref i fagu ei phlant am dros 20 mlynedd. Roedd hi eisiau swydd gyda phlant ond nid oedd hi’n siŵr beth i’w wneud na pha fath o swydd roedd hi’n ei ddymuno. Roedd hi’n ystyried rôl cynorthwyydd mewn ysgol gynradd ond nid oedd hi eisiau mentro a chymryd swydd lawn amser cyn bod yn hollol siŵr mai dyna oedd y swydd iawn. Felly, fe drefnon ni iddi wirfoddoli mewn ysgol, fe wnaethon ni helpu gyda gwiriadau DBS a’r holl waith papur arall angenrheidiol. Mae hi bellach wedi dechrau gwirfoddoli ac mae hwn yn gyfle iddi ystyried ei hopsiynau i’r dyfodol a beth fydd yn gweithio orau iddi hi a’i theulu.

Glesni: Rwy’n mwynhau’r ffaith fy mod yn gallu helpu pobl o bob oed i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant - dydy oedran ddim yn rhwystr o fath yn y byd. Rydw i hefyd wrth fy modd ein bod yn cael y cyfle i helpu pobl o gefndiroedd gwahanol iawn a phobl y mae eu hamgylchiadau’n wahanol iawn. Er enghraifft, rwy’n cael cryn foddhad wrth helpu rhywun i ddod o hyd i waith ar ôl i’r unigolyn hwnnw fod allan o waith am amser hir oherwydd problemau iechyd.

Catrin: Gyda’r prosiect hwn gallwn gynnig cyfleoedd gwaith am dâl – er enghraifft os oes rhywun yn awyddus i gael swydd benodol ond nad ydynt wedi gweithio yn y rôl honno/y maes hwnnw, fe af i at fusnesau i weld a fyddai diddordeb ganddynt mewn cynnig swydd dros dro. O fod wedi dod i gytundeb gyda chyflogwyr, gall pobl sy’n rhan o’r prosiect hwn roi cynnig ar y rôl hon i weld a yw’n gweddu iddynt – profi cyn prynu. Mae’r prosiect yn talu’r cyflogwr ac yna mae’r cyflogwr yn talu’r sawl sy’n rhan o’r prosiect, fel mae’n talu unrhyw aelod arall o staff – prin yw cyfleoedd o’r fath ym myd gwaith.

Lleoliad gwaith am gyfnod byr yw hwn, cyfnod sydd fel rheol yn para rhwng un a dau fis, ond mae’n ddigon hir i’r sawl sy’n rhan o’r prosiect i ystyried a yw’r swydd yn addas ar ei gyfer/ar ei chyfer, ac i’r cyflogwr weld a yw’r cyfranogwr yn addas ar gyfer y rôl. Os yw’r cyfranogwr yn dymuno parhau gyda’r swydd a bod y cyflogwr yn hapus, weithiau gall y lleoliad gwaith arwain at rôl fwy parhaol.

Hyd yn oed os nad yw’r cyfranogwr eisiau parhau yn y rôl, mae’n dal yn brofiad gwerthfawr a gellir ei ychwanegu at CV. Gellir defnyddio’r profiad hwn i adlewyrchu ar gryfderau a gwendidau a gellir dod atom ni am gymorth i gael hyfforddiant i lenwi’r bylchau hynny.

Mae’n wych pan fo busnesau sydd wedi cyflogi cyfranogwyr yn y gorffennol yn dod atom a dweud bod swydd wag ganddynt, gan ofyn i ni a oes gennym unrhyw bobl yn y prosiect a fyddai’n addas ar gyfer y rôl – ni yw’r ddolen sy’n cysylltu’r ddau (y cyflogwr a’r cyfranogwr).

Delor: Gall amgylchiadau pobl newid mor gyflym – un funud rydych yn gweithio’n llawn amser ac mae gennych y sicrwydd hwnnw, yna’r eiliad nesaf, gall eich cytundeb gwaith ddod i ben – ni allwch fforddio talu’r biliau ac rydych yn wynebu tlodi.

Mae gan bawb heriau gwahanol y mae’n rhaid iddynt eu hwynebu; rydym ni yma i ysgafnhau rhai o’r beichiau hyn.

Delor: Mae pob diwrnod yn fy swydd yn wahanol. Rwy’n trefnu cyfarfodydd un-i-un, yn mynd i lyfrgelloedd a chanolfannau gwaith, gan gyfarfod ag aelodau’r cynllun, gan gynnal sesiynau allgymorth rheolaidd, yn cynorthwyo cyfranogwyr i lenwi ffurflenni cais am swydd, yn llunio CVs, yn mireinio sgiliau cyfweld; dyna’r hyn rwy’n ei hoffi am y swydd – rydych yn cyfarfod â’r fath amrywiaeth o bobl ac mae’n deimlad gwych wrth i chi weld faint o gynnydd maent yn ei wneud, wrth iddynt feithrin sgiliau a chael cyfleoedd newydd.

Glesni: Rydym newydd dderbyn y newyddion da y bydd y cynllun yn parhau tan fis Mawrth 2020, felly rydym yn mawr obeithio y gallwn helpu cynifer o bobl â phosibl yn ystod yr wyth mis nesaf. Y ffordd orau i gysylltu â’r tîm yw drwy anfon e-bost at cfwp@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 574 193.

28/08/2019