Crwtyn o Bontyberem, Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin ydwyf yn wreiddiol ond rwyf wedi byw yn Aberystwyth ers 2010. Astudiais radd mewn Daearyddiaeth Ddynol ac yna gradd meistr mewn Polisi Amgylcheddol a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn dilyn fy nghyfnod yn y coleg ger y lli, bues i’n gweithio am gyfnod fel Ymgynghorydd Ymchwil gyda chwmni ymgynghori lleol gan deithio ar hyd a lled Cymru yn cynnal ymchwil a gwerthusiadau o bob math.

Dechreuais fy swydd bresennol fel Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion ym mis Ebrill 2016. Mae’r swydd yn cyfuno fy mhrofiad o gynnal ymchwil, fy angerdd tuag at ddyfodol yr iaith Gymraeg a hefyd cynnig cyfle i gyfrannu fy sgiliau creadigol a cherddorol er budd eraill. Rwy’n mwynhau bod mas o gwmpas y lle yn cwrdd â phobl a datblygu prosiectau lleol. Yr amrywiaeth a’r hyblygrwydd hynny sy’n gwneud y swydd yn lafur cariad i mi.


Does yna ddim diwrnod arferol mewn gwirionedd. Mae natur fy ngwaith yn amrywio llawer ac yn golygu fod angen bod yn hyblyg. Un diwrnod ar ddechrau mis Chwefror, roedd angen i mi godi am 5.45y.b. er mwyn teithio i Landysul i helpu rhedeg brecwast busnes. Ar ôl gorffen yno, es mewn i’r swyddfa yn Felin-fach i wneud gwaith swyddfa cyn mynychu cyfarfod gyda’r hwyr yn Aberystwyth. Ar ddiwrnodau eraill, efallai bydd gen i gyfarfod mewn un man o’r sir, cynnal gweithdy mewn ysgol a gosod posteri ym mhen arall y sir, tra bydd diwrnodau arall yn golygu bod wrth y ddesg am y dydd.


Prif elfen fy ngwaith yw datblygu prosiectau Gweithredu’n Lleol neu Pwerdai Iaith yn nhrefi Ceredigion er mwyn tynnu trigolion lleol ynghyd i drafod sefyllfa’r Gymraeg yn lleol mewn modd cyfannol. Trwy gydweithio, rwy’n creu asesiadau trylwyr o sefyllfa’r Gymraeg yng nghymdogaethau ar draws Ceredigion. Yn ogystal â rhoi data a thystiolaeth defnyddiol i Cered a sefydliadau eraill o anghenion lleol y Gymraeg, nod y gwaith yma yw ysgogi trigolion a sefydliadau lleol i fynd ati i weithredu’n lleol o blaid y Gymraeg.


Mae Pwerdy Iaith yn bodoli ym mhob un o drefi’r sir bellach ond mae tri o’r rheiny – Aberaeron, Llandysul a Thregaron - yn mynd ati yn ystod mis Mawrth i ddatblygu prosiectau cyffrous gyda chefnogaeth Cered.


Thema a gododd o waith ymchwil y Pwerdai Iaith oedd fod angen bywiogi bwrlwm Cymraeg y trefi bach yma trwy gynnal mwy o nosweithiau o adloniant ysgafn a fyddai’n apelgar i bobl ifanc a theuluoedd yn enwedig. Mae’n amlwg o’r ymchwil fod allfudo o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith i ddinasoedd megis Caerdydd yn broblem o ran parhad yr iaith yng Ngheredigion gyfan ac fod ymateb i hyn mewn modd cadarnhaol yn anodd. Er hyn, teimlwyd y byddai trefnu mwy o gigs a nosweithiau o adloniant cyfoes ac ifanc eu naws yn yr ardaloedd yma yn gam cadarnhaol er mwyn gwneud Ceredigion yn le mwy apelgar i fyw, gweithio a mwynhau.


Yn fy amser hamdden, fy obsesiwn pennaf yw’r Sîn Roc Gymraeg. Rwy’n cyfansoddi a pherfformio caneuon fy hun dan yr enw Bwca, yn trio adfywio Aberystwyth fel cyrchfan ar gyfer cerddoriaeth byw gyda Gigs Cantre’r Gwaelod, ac rwy’n aml yn teithio i fynd i gigs a gwyliau cerddorol ar draws Cymru.


Mae fy niddordeb personol wedi bod o fudd wrth weithredu’r angen lleol a rhoi cymorth i drefnu gigs a nosweithiau o adloniant. Y cyntaf o’r gigs i gael eu cyhoeddi yw’r un yn Aberaeron. Ar nos Wener, 16 Mawrth, fe fydd Huw Chiswell, cyfansoddwr nifer o glasuron Cymraeg fel “Y Cwm”, “Parti’r Ysbrydion” a “Frank a Moira” yn perfformio yn Neuadd Goffa Aberaeron. Bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron, Danielle Lewis yn ei gefnogi. Mae’r gantores ifanc yn chwarae cerddoriaeth ysgafn a hafaidd ei naws ar y gitâr acwstig a’r ukelele ac wedi chwarae mewn nifer o wyliau sylweddol ar draws Cymru a thu hwnt. Fe fydd y noson yn dechrau am 7.30y.h. gyda thocynnau i oedolion yn £8 a phlant dan 15 yn £5.


Yn ogystal â’r gigs yma, ar hyn o bryd rwy’n brysur yn gwneud y trefniadau munud olaf ar gyfer dathliadau Gŵyl Dewi Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan. Fe fydd Parêd Gŵyl Dewi yn cael ei gynnal yn Llambed am y tro cyntaf eleni, ar ddydd Gwener, 2 Mawrth, ac fe fyddwn yn cyd-drefnu gig yn Neuadd Fictoria ar y nos Sadwrn. Mae Parêd Aberystwyth yn dathlu pum mlynedd o fodolaeth ar ddydd Sadwrn, 3 Mawrth. Byddwn ni yn Cered yn cynnal diwrnod o weithgareddau ac adloniant i’r teulu cyfan o’r enw “Cered ar y Prom” yn Y Bandstand, Aberystwyth.


O’r Pwerdai Iaith, i’r gigs yn Aberaeron, Llandysul a Thregaron, i’r dathliadau Gŵyl Dewi yn Aberystwyth a Llambed, mae llawer o waith trefnu gyda fi! Dilynwch yr hynt a'r helynt o’r holl sy’n mynd ymlaen, gweithgareddau a digwyddiadau eraill, yn ogystal â newyddion am waith ehangach y fenter drwy hoffi ein tudalen Facebook @ceredmenteriaith neu ein dilyn ar Twitter @MICered.

Llun: Steffan yn perfformio dan yr enw Bwca

16/02/2018