Astudiais Ffotograffiaeth, Graffeg a Fideo yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam cyn symud ymlaen i gwblhau gradd mewn Graffeg Electronig ym Mhrifysgol Swydd Stafford, a chwrs TAR yn dilyn hynny.

Bûm yn addysgu am gyfnod yng Ngholeg Iâl cyn penderfynu mynd i deithio. Un lle yn arbennig yr oeddwn am ymweld ag ef oedd Rwsia, a bûm yn gweithio ac yn byw yno am dros bum mlynedd.

Ers 2011, rwyf wedi bod yn diwtor gyda Dysgu Bro Ceredigion. Dysgu Bro Ceredigion yw darparwyr Addysg Gymunedol Cyngor Sir Ceredigion. Eu nod yw darparu cyfleoedd dysgu er mwyn i bobl o gymunedau ledled Ceredigion ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster neu wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle.

Rydym yn darparu cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol, yn y gweithle neu yn un o’n lleoliadau; Aberaeron, Canolfan Rheidol, HCT Llanbadarn, Canolfan Dysgu Bro Llandysul neu yng Nghanolfan Dysgu Bro Aberteifi.

Rwy’n dysgu ystod o sgiliau digidol, gan gynnwys Dylunio Gwefan, defnyddio Adobe Photoshop, y Cyfryngau Cymdeithasol a Microsoft Office (Word, Excel etc).

Cynhelir y rhan fwyaf o’m dosbarthiadau yng Nghanolfan Rheidol yn ystod y dydd ac yng Nghanolfan HCT Llanbadarn gyda’r hwyr. Rwy’n mwynhau darparu ystod o bynciau, er hynny, y cyrsiau creadigol yr wyf yn eu mwynhau fwyaf, er enghraifft Teipograffeg neu Ffotograffiaeth Ddigidol. Rwy’n addysgu dysgwyr o bob oedran a chefndir, o 14 i 95 mlwydd oed!

Rwyf hefyd yn addysgu mewn cymunedau lleol, gan gynnwys yn Theatr Felinfach ac yng Nghaffi cymunedol Cletwr yn Nhre’r-ddôl.
Rwyf hefyd yn addysgu staff y Cyngor yn ogystal â darparu ar gyfer busnesau megis y Groes Goch, Undeb Amaethwyr Cymru ac Arad Goch. Felly, os ydych yn awyddus i hyfforddi eich staff mewn lleoliad lleol ac am bris rhesymol, ystyriwch Dysgu Bro Ceredigion.
Mae gen i un grŵp gwych sydd wedi bod yn cwrdd bob bore dydd Mawrth ers saith mlynedd bellach. Maent yn dangos brwdfrydedd parhaus o ran eisiau datblygu eu sgiliau digidol.

Yn Dysgu Bro, rydym yn darparu nifer o gyrsiau a chymwysterau mewn ystod o bynciau megis Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL), Cymorth Cyntaf, defnyddio iPad a Chyflwyniad i Wyddor Fforensig Safleoedd Troseddau! Cynhelir cyrsiau yn ystod y dydd a gyda’r hwyr. Ym mis Ionawr, dechreuwyd cyrsiau newydd gan gynnwys Ioga, Printio Sgrin a Phaentio Gwydr. Felly, os ydych yn awyddus i ddysgu rhywbeth newydd yn 2019, cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion.

Neu beth am alw heibio i’n noson agored ar 6 Mawrth yng Nghanolfan HCT Llanbadarn rhwng 3pm a 7pm i ddysgu mwy am yr hyn yr ydym yn ei gynnig. Byddwn yn cynnig ystod o gyrsiau byr gyda’r hwyr ar yr wythnos sy’n dechrau 11 Mawrth, felly bydd hwn yn amser delfrydol i ddod i gael gwybod mwy.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag admin@dysgubro.org.uk, 01970 633540 neu ymwelwch â’r wefan www.dysgubro.org.uk

 

14/02/2019