Cefais i fy ngeni a’m magu yn ardal Aberystwyth, gan fyw yn ardal Pont-rhyd-y-groes am dros 30 mlynedd gyda fy ngwraig a 3 merch, a dod yn dad-cu’n diweddar hefyd. Mae’n bleser i mi gallu rhoi cefnogaeth a bod yn rhan o'r gymuned leol a nifer o sefydliadau gwirfoddol. Nôl yn 2010, enillais i wobr Gwirfoddolwyr Ceredigion CAVO am 'Ymddiriedolwr y Flwyddyn' ac rwyf hefyd wedi bod yn glerc i Gyngor Cymuned Ysbyty Ystwyth am 18 mlynedd.

Dechreuais fy ngyrfa gyda Cyngor Sir Ceredigion yn 1989 pan oedd yn Gyngor Sir Dyfed, gan weithio fel gweithiwr ffordd o fewn tîm yn gwneud gwaith sylfaenol cynnal a chadw yng ngogledd Ceredigion. Yn 2003, cymerais rôl goruchwylio gwaith contract fel torri glaswellt a gwaith arwyneb. Weithiau, roeddwn i’n cyflenwi dros dro yn swydd arolygydd priffyrdd – rôl a dderbyniais fel swydd barhaol yn 2008.

Yn 2008, treuliais 12 mis mewn secondiad i gwmni Atkins fel Goruchwyliwr Safle Cynorthwyol yng nghyfnod cyntaf Cynllun Amddiffyn Arfordirol Traeth Gogledd Aberaeron, wedi fy lleoli yn swyddfeydd y safle ar draeth gogledd Aberaeron. Fe wnaeth y cynllun gynnwys adeiladu naw grwyn pren, dau grwyn craig ac adeiladwaith o wal gynnal o graig gan ddefnyddio dros 70,000 tunnell o glogfaen craig, ynghyd a wal môr newydd. Roedd e'n bleser mawr i weld y cynllun yn datblygu, o'r clogfaen cyntaf yn cael ei roi yn ei le i'r un olaf, ac i weld pa mor dda y mae'r creigiau yn amddiffyn Aberaeron o sawl storm ers iddo fod yn ei le.

Fy rôl bresennol yw Cynorthwyydd Technegol (Prosiectau) gyda fy ngwaith yn amrywiol iawn. O fis Chwefror i fis Medi, rwyf ynghlwm â gosod y Rhaglen Triniaeth Arwyneb sydd yn raglen ledled y sir o waith arwyneb. Hefyd rwy’n goruchwylio rhan o’r gwasanaeth cynnal a chadw'r Gaeaf.

Yn aml mae canfyddiad gan bobl bod cynnal a chadw y Gaeaf yn dechrau pan fydd y tywydd yn dechrau’n oeri, ond dydy hyn ddim yn gywir. Mae rhywfaint o waith i raglen cynnal a chadw’r Gaeaf yn digwydd yn ystod y flwyddyn gyfan.

Fel arfer, ni'n dechrau cynllunio a pharatoi at y Gaeaf sy'n agosáu ym mis Mai, ychydig wythnosau ar ôl i dymor y Gaeaf ddiwethaf ddod i ben. Adeg yma o'r flwyddyn, rydym yn gwneud ychydig o waith cynnal a chadw ar ein dwy ysgubor halen, wedi eu lleoli yn Glanyrafon, Aberystwyth a Phenrhos, ger Llandysul. Dyma’r amser pan fo lefelau halen ar ei isaf sy’n gwneud mynediad i'r ysguboriau yn haws os bydd angen gwneud gwaith atgyweirio.

Mae'r halen o ysgubor Penrhos yn cael ei ddefnyddio ar ffyrdd de y Sir, o Dregaron lawr i Aberteifi, tra bod yr halen o ysgubor Glanyrafon yn cael ei ddefnyddio ar ffyrdd gogledd y sir, o Langurig a Machynlleth lawr i Dregaron.

Ar ôl i unrhyw gwaith angenrheidiol atgyweirio gael ei gwblhau, mae archeb yn cael ei roi i mewn ar gyfer halen i'r Gaeaf. Mae'r halen yn cael ei ddosbarthu ar lorïau 28 tunnell o bwll halen yn Winsford, Sir Caer, gyda saith i wyth lori yn cyrraedd bob dydd. Mae'r halen yn cyrraedd yn gynnar ym mis Mehefin, a haf diwethaf, cyrhaeddodd 3,600 tunnell yng Ngheredigion. Dyma'r swm o halen y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i Geredigion ei gael ar ddechrau pob Gaeaf.

Mae gyda ni tua 60 o weithwyr cymwysedig, sy'n gweithio ar sail rota dros gyfnod y Gaeaf, ac yn gallu gweithio ein cerbydau gwasanaethau'r Gaeaf. Mae hi’n gallu bod yn amser heriol i weithio allan y rota ac mae'r dyletswydd yma yn dechrau ym mis Awst pan fydd holiaduron yn cael eu danfon i'r gyrwyr graeanu am eu hargaeledd o fis Hydref hyd at fis Ebrill, sy'n cynnwys cyflenwi dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Mae'r gyrwyr yn cynnwys swyddogion o wasanaethau penodol sef Priffyrdd, Casgliadau Gwastraff, Glanhawyr Strydoedd a Chynnal a Chadw Gerddi.

Un o'r tasgau cyntaf yw sicrhau bod dros 600 o finiau graeanu ar draws y sir yn cael eu llenwi ac unrhyw ddifrod yn cael eu trwsio yn barod ar gyfer y cyhoedd i’w defnyddio. Mae'r biniau graeanu’n tueddu i fod mewn lleoliadau ger heolydd serth sydd ddim ar y priffyrdd penodedig sy'n cael eu graeanu. Yn ddibynnol ar pa fath o aeaf yr ydym ni'n cael, bydd y biniau yn cael eu llenwi eto yn ystod y tymor.

Pan fo'r cerbydau graeanu allan yn rhoi halen ar y ffyrdd, mae 11 goruchwyliwr cymwys yn gweithio o'r ddau ddepo ar sail rota. Cyfrifoldeb y goruchwyliwr yw paratoi'r cerbydau graeanu ar gyfer y llwybrau; eu pwyso ar ein pontydd-pwyso cyn eu bod nhw'n gadael i wneud yn siŵr bod digon o halen gyda'r cerbydau graeanu i gwblhau eu llwybrau nhw; cyfarwyddo’r gyrwyr o ran y cyfanswm cywir o halen sydd angen cael eu dosbarthu ar y priffyrdd; a gwneud yn siŵr bod y cerbydau yn gadael y depos ar yr amser iawn. Mae gan ein holl gerbydau systemau llwybro gan fod mwyafrif y gwaith yn unigol, a mwy aml na pheidio, yn cael eu cynnal yn oriau mân y bore. Bydd y goruchwyliwr sydd ar ddyletswydd yn monitro'r holl gerbydau pan fyddant ar y ffyrdd. Pan fydd y cerbydau graeanu yn dychwelyd ar ôl cwblhau'r llwybrau, maent yn cael eu pwyso eto. Cofnodir y cyfanswm o halen ac mae gwiriad yn cael ei wneud i gadarnhau bod y cyfanswm cywir o halen wedi'i ddosbarthu. Mae'r cerbydau graeanu wedyn yn cael eu paratoi ar gyfer y tro nesaf.

Mae’r penderfyniad os y bydd y cerbydau graeanu yn mynd mas neu beidio yn dibynnu ar pa wybodaeth sy’n cael ei dderbyn o Meteorgroup, ein darparwr rhagolygon y tywydd. Ni'n derbyn 3 rhagolwg pob dydd o fis Hydref hyd at fis Ebrill, 7 diwrnod yr wythnos a bydd y Swyddog Priffyrdd ar ddyletswydd yn defnyddio'r wybodaeth i benderfynu os bydd angen y cerbydau graeanu ar y ffyrdd neu beidio. Os bydd y rhagolwg yn rhagweld tymheredd yn cwympo o dan +1°C, dyma’r golau gwyrdd i roi halen ar y ffyrdd! Mae amodau yn cael eu monitro i weld os bydd angen graeanu’r un ffyrdd eto. Os bydd amodau'n sych, efallai bydd dim angen ail-raeanu'r noson ganlynol. Os bod y tywydd wedi bod yn wlyb, efallai bydd yr halen wedi golchi i ffwrdd neu os mae'r ffordd yn dueddol o gael traffig trwm, efallai bydd yr halen wedi cael ei wthio o wyneb y ffordd a bydd angen graeanu eto. Mae gwybodaeth ar weithrediad graeanu i gyd yn cael ei anfon i'r partneriaid sydd â diddordeb, yn cynnwys Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a Thîm Cyfathrebu'r Cyngor sydd yn gosod gwybodaeth ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor i hysbysu'r cyhoedd am yr amodau rhewllyd.

Mae cyfanswm o 10 llwybr graeanu sylfaenol, sy'n cwmpasu 437km o ffyrdd Ceredigion. Mae'r llwybrau hyn yn cael eu penderfynu trwy ddefnyddio matrics, sy'n ystyried nifer o bethau gan gynnwys traffig, uchder ac ysgolion.

Ar ddechrau mis Hydref, mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y cerbydau graeanu i gyd. Mae'r holl gerbydau graeanu yn cael eu graddnodi ar ddechrau'r tymor i sicrhau bod y cyfanswm cywir o halen yn cael ei ddosbarthu ar y priffyrdd. Mae'r fflyd gyfan yn cynnwys 10 cerbyd graeanu rheng flaen, 5 wedi'i sefydlu yn y Gogledd a 5 yn y De, gyda 7 cerbyd wrth gefn. Hefyd yn y fflyd mae 5 chwythwr eira wedi'i adeiladu yn arbennig ar gyfer y gwaith. Mae'r chwythwr eira yn cael eu defnyddio mewn eira trwm, amodau lluwch ac amodau eithafol yn unig.

Pan fo rhew caled wedi bod, mae'n debygol iawn y bydd y cerbydau graeanu mas yn gynnar yn y nos ac eto yn oriau mân y bore. Yn ystod eira Rhagfyr 2017, gwelodd y rhagolwg y byddai cwymp o dros 20cm o eira yn rhannau o Geredigion. Pan fyddwn yn derbyn rhagolwg fel hyn, mae criw'r cerbydau graeanu yn cael eu rhoi ar batrwm sifft 12 awr gyda’r aradr eira yn cael eu gosod a 2 berson ym mhob cerbyd. Yn ystod y cyfnod yma, roedd pob cerbyd yn ein fflyd y Gaeaf, yn cynnwys y chwythwyr eira, yn cael eu defnyddio i geisio cadw prif lwybrau Ceredigion ar agor. Cafodd bron 1,000 tunnell o halen ei ddefnyddio a dros 9,000 o filltiroedd eu teithio dros wyth sifft 12 awr.

Yn ofynnol yn fy rôl bresennol oedd mynd i’r coleg am un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 2 flynedd i gwblhau cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn peirianneg sifil. Roeddwn i'n 47 pan ddechreuais ar y cwrs ac roedd e'n sioc mawr i'r system i ddychwelyd i'r dosbarth ar ôl 30 o flynedd. Roedd fy mhlant yn gweld hyn yn ddoniol dros ben fod gwaith cartref gyda Dad! Roedd e'n waith caled, ond fe wnaeth hyn ddod a fi i ble’r ydw i heddiw.

Ar wahân i'r amser sy'n gysylltiedig â rhaglen cynnal a chadw'r gaeaf a gwisgo arwyneb, rhan arall o'm rôl yw cadw cofnodion hyfforddi cyfoes o'r gweithlu, trefnu cyrsiau hyfforddi a hyfforddiant gloywi pan fo angen.

Mae’n rhaid i'r holl weithwyr gwasanaethau'r Gaeaf elwa cymhwyster mewn City & Guilds i weithio cerbyd graeanu, sy’n ddilys am 5 mlynedd. Rhan o fy rôl yw sicrhau bod y cofnodion wedi eu diweddaru, o'r gweithwyr i'r Swyddogion ar ddyletswydd. Mae hyfforddiant gloywi yn cael ei drefnu bob blwyddyn i sicrhau bod y gweithwyr wedi eu diweddaru.

Rwyf hefyd ynghlwm gyda’n tîm Systemau Rheolwaith Ansawdd o fewn Gwasanaethau Priffyrdd. Mae'r rôl yma yn cynnwys cael achrediad gyda'r Safonau Prydeinig i Reoli Ansawdd, Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol, ac rwy'n rhan o'r tîm sy'n sicrhau bod strwythurau yn eu lle i gadw'r achrediad. Mae rhan o hyn yn cynnwys cynnal archwiliad mewnol ar holl weithgareddau Cynnal a Chadw'r Priffyrdd ledled y Sir, cadw cofnodion a mynychu archwiliadau allanol trwy'r flwyddyn.

Un o fy atgofion o ddyletswyddau o fewn fy rôl oedd cynorthwyo yn yr orymdaith y dortsh Olympaidd. Fe helpais i baratoi caeau'r ficerdy yn Aberystwyth ar gyfer y digwyddiad. Cafodd y ddyletswydd yma ei ail adrodd 2 flynedd yn ddiweddarach pan wnaeth tortsh y Gymanwlad wneud ei ffordd drwy'r Sir.

Rwy'n hoffi amrywiaeth y gwaith o fewn fy rôl, yr angen i ddelio gyda'r ehangder o sefyllfaoedd gwahanol. Fel rhan o dîm adweithiol cynnal y priffyrdd, mae angen bod yn barod i beth bynnag y mae'r diwrnod yn taflu atoch. Mae newidiadau mewn amodau'r tywydd yn gallu cael effaith enfawr ar ein gweithlu.

Ychydig o fisoedd yn ôl, roedd yn rhaid i ni ddelio gydag olion Corwynt Ophelia ac effeithiau Storm Brian, yn cynnwys sawl coeden wedi cwympo, llifogydd, materion ar y priffyrdd, a galwadau o'r cyhoedd a’r gwasanaethau brys. Fe wnaeth ein staff weithio'n galed mewn amryw o leoliadau ddydd a nos i helpu lleihau'r materion.

Rwy'n falch o wybod fy mod yn rhan o dîm sy'n sicrhau bod y ffyrdd yng Ngheredigion yn fwy diogel yn ystod amodau rhew oherwydd bod ein cerbydau graeanu wedi bod ar waith. Serch hynny, mae dal angen i yrwyr yrru'n ofalus yn ystod y Gaeaf ac i gofio cadw pellter diogel o gerbydau gwasanaethau Gaeaf ac i fynd heibio yn ofalus iawn. Mae'r cerbydau graeanu wedi eu cynllunio i osod halen dros yr heol gyfan. Yn ystod cyfnodau o dymheredd isel, gall rhew dal fod yn bresennol mewn lleoliadau prin ar ôl neu cyn bod halen wedi cael ei ddefnyddio.

Am fwy o gyngor a gwybodaeth am y priffyrdd dros y Gaeaf, ewch i wefan y Cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/y-priffyrdd-dros-y-gaeaf/

Gallwch weld pa heolydd sy’n cael eu graeanu yng Ngheredigion ar fap rhyngweithiol ar wefan y Cyngor: http://map.ceredigion.gov.uk/connect/?mapcfg=PRECAUTIONARY_SALTING

 

19/01/2018