Yn wreiddiol o Sanclêr, rwyf wedi cael gwaith amrywiol yn y gorffennol, o hyfforddi i fod yn adeiladwr pan adawais yr ysgol, i weithio o fewn yr adran cofnodion meddygol yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Astudiais am radd mewn Cyfraith ym Mryste ac wedi bwriadu hyfforddi i fod yn y gwasanaeth prawf yn wreiddiol. Fodd bynnag, symudais i Geredigion yn 2004 ar ôl cwrdd â fy ngwraig a dechrau gweithio mewn cwmni potelu dŵr ffynnon lleol. Mwynheais y swydd mas draw gan ei fod wedi helpu imi ddatblygu perthynas da gyda’r gymuned leol trwy siarad â chwsmeriaid yn rheolaidd.

Gorwelion newydd
Ar ôl naw mlynedd gyda’r cwmni potelu dŵr, teimlais ei bod yn amser am newid. Gwelais i’r swydd am Swyddog Gorfodi Parcio Sifil wedi’i hysbysebu a dewisais geisio amdano. Roeddwn i’n eithaf pryderus ar y dechrau, yn poeni os oedd y ffordd y mae’r rôl yn cael ei phortreadu ar y teledu yn adlewyrchiad o realiti. Diolch byth, ar ôl bod yn llwyddiannus yn cael cynnig y swydd a dechrau yn fy rôl newydd, fe wnes i ddarganfod yn fuan iawn bod y portread ddim byd tebyg i fy swydd o ddydd i ddydd.

Bod yn Swyddog Gorfodi Sifil
Yn ystod y misoedd cyntaf yn fy rôl newydd, cwrddais a llawer o bobl cadarnhaol a chefnogol iawn. Roedd hyn oherwydd bod nifer o drigolion Ceredigion yn cofio’r cofnod ble doedd dim Swyddogion Gwasanaeth Parcio ar ddyletswydd yn y sir a’r anrhefn wnaeth hyn achosi.

Roeddwn i’n lwcus iawn i gael tîm chefnogol o’m cwmpas gyda Katy, Alun a Gerwyn yn y swyddfa neu allan gyda Nicola. Rwy’n ddiolchgar iawn iddi am dreulio tipyn o amser ar y dechrau yn fy hyfforddi.

Prif nod y rôl yw sicrhau bod y traffig yn llifo'n ddidrafferth ac annog pobl i gydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio. Mae cydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio yn chwarae rhan bwysig i sicrhau diogelwch gyrwyr ar y ffyrdd yn ogystal â cherddwyr.

Weithiau, mae’r swydd yn gallu bod yn anodd ond mae hefyd cyfnodau da ble chi’n teimlo eich bod chi wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae gan y swydd ei hamseroedd doniol hefyd - unwaith roeddwn i wedi cael fy nghwrso ar hyd Rhodfa'r Môr gan Dalek, yn bygythio fy ninistrio os y byddwn yn bwcio ei long ofod. Lwcus eu bod wedi symud ymlaen cyn bod yn rhaid i mi osod Hysbysiad Tâl Cosb!

Mae’r swydd yn amrywiol. Gallaf dreulio llawer o amser yn ystod yr haf yn rhoi gwybodaeth i nifer fawr o ymwelwyr sy’n dod i Geredigion am eu gwyliau. Rwy’n fwy na bodlon eu helpu a dw i wedi dysgu cymaint am y sir fy hunan trwy wneud hyn. Rydym yn ffodus medru mwynhau sir sy’n llawn golygfeydd hardd, ardaloedd mewndirol ac arfordirol.

Datblygu i fod yn Arweinydd Tîm Gwasanaethau Parcio
Ar ôl tair blynedd yn y rôl, daeth swydd wag fel Arweinydd Tîm Gwasanaethau Parcio. Yn ffodus, roeddwn i’n llwyddiannus i dderbyn y rôl. Mae’r swydd newydd yn gofyn i fi, ar y cyd â dwy o fy nghydweithwyr, i reoli’r Swyddogion Gorfodi Sifil arall, rheoli meysydd parcio a delio gyda rhestr eang o ddyletswyddau. Mae’r rhain yn cynnwys ymholiadau, cwynion, tocynnau tymhorol a hepgoriadau.

Ydych chi’n gwybod y medrwch wneud cais ar-lein am Docynnau Tymor ar gyfer y Meysydd Parcio? Trwy brynu Tocyn Tymor, does dim rhaid i chi gofio dod ag arian i’r peiriant. Os ydych chi’n defnyddio meysydd parcio’r Cyngor yn rheolaidd, gallech arbed hyd at 79% o’r gost o barcio bob dydd trwy brynu Tocyn Tymor.

Mae fy rôl yn amrywiol ac yn symud yn gyflym sy’n gofyn am y gallu i addasu i’r materion gwahanol a all godi ar draws y sir. Mae Ceredigion yn cynnwys llawer o ardaloedd gwahanol iawn i’w gilydd ac mae hyn yn golygu bod rhaid i’r gwasanaeth fod yn hyblyg ac addasu lle bynnag sy’n bosib.

Rydym yn cwmpasu’r sir gyfan, a dros yr haf, mae ein gwaith yn cynyddu’n sylweddol. Rydym yn dîm bach sydd ag ardal fawr i lenwi, felly amynedd pia hi!

Caru Ceredigion
Rydym yn gweithredu o dan ethos Caru Ceredigion ac yn arwain trwy addysgu, ac nid gorfodi. Mae Caru Ceredigion yn ymwneud ag ysbrydoli pawb yn y sir i hyrwyddo'r pethau cadarnhaol o ran ymddygiad ac agweddau.

Ein prif amcan yw sicrhau bod y traffig yn llifo'n ddidrafferth, y trosiant o lefydd parcio amser cyfyngedig, a’r defnydd cywir o lefydd parcio megis Bathodynnau Glas a bod y cyrbau isel yn glir ac yn hygyrch i bawb.

Gweithio mewn partneriaeth
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i geisio sicrhau diogelwch cerddwyr yn ystod amser casglu plant o’r ysgol. Mae Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Mary Weller, a finnau yn ymweld ag ysgolion cynradd o fewn ardal Aberystwyth i geisio addysgu rhieni o ran arferion parcio’n ddiogel yn ystod yr amser y maent yn mynd ac yn casglu plant o’r ysgol. Rydym yn cael effaith cadarnhaol wrth wneud hyn ac mae’r rhieni wedi bod yn gefnogol iawn o’n dull proactif.

Tîm Gorfodi Parcio Sifil Ceredigion
Fel tîm, mae angen i ni fod yn hyblyg a gweithio’n symudol iawn. Rydym yn weithredol saith diwrnod yr wythnos yn cynnwys nosweithiau a Gwyliau Banc. Rwy’n falch fy mod yn rhan o’r tîm sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y ffyrdd yn llifo cymaint ag sy’n bosib ac yn ddiogel i gerddwyr a gyrwyr.

Ar ôl treial llwyddiannus, rydym wedi cyflwyno 11 peiriant Talu ac Arddangos yn ddiweddar sy’n derbyn Sglodyn a PIN neu gardiau di-gyffwrdd. Yn unol â’n rhaglen ailosod, byddwn yn parhau i gynyddu’r nifer o beiriannau sy’n derbyn taliadau o gardiau ac mae ein cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys ymchwil mewn i gyflwyno Ap ar y ffôn.

Am ragor o wybodaeth am Dîm Gorfodaeth Parcio Sifil Ceredigion, neu i ymgeisio am Docynnau Tymor Parcio ar-lein, ewch i'r adran Teithio, Ffyrdd a Pharcio ar www.ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 572572.

20/06/2018