Ces fy magu ger yr afon Ystwyth ym mhentref bach Llanafan gan fynychu’r ysgol leol ac yna Ysgol Uwchradd Tregaron, fel ag yr oedd yn cael ei alw ar y pryd. Mwynheais fy nghyfnod yn yr ysgol ond erbyn y diwedd, cefais ddigon ar fyd ysgol ac ar ôl cwblhau’r Lefel A, penderfynais fynd amdani a dechrau gweithio. Gweithiais mewn archfarchnad yn Aberystwyth yn gyntaf ond wedyn daeth y cyfle i ymuno â’r byd llyfrau.

Camu i fyd y llyfrau

Yn 2003, cymrais y cyfle i fynd am swydd rhan amser yn Llyfrgell Tregaron lle roeddwn yn gweithio dwy noson o 4-7yh a phob dydd Sadwrn. Pan ddywedais wrth fy ffrindiau fy mod wedi cael swydd yn y Llyfrgell leol, y sylwad ro’n i bob amser yn ei gael oedd “Be’, Library? Beth wyt ti’n gwybod am lyfre?” Dechreuais ofyn i fy hun a oeddwn i’n deall digon am lyfrau? Ond, wedi cyfnod, daeth y swydd yn naturiol i fi a dysgais lawer am awduron a sut roedd y llyfrgell yn gweithio a’r hyn yr oedd pobl yn hoffi ei ddarllen.

Wedyn, daeth y cam mawr wrth i swydd rhan amser droi’n swydd llawn amser. Dywedodd Eira Griffiths, y llyfrgellydd ar y pryd, “Emyr, cer amdani!” a dyna’r cyngor gorau ges i. Gan fod y llyfrgell yn rhan o’r Ysgol Uwchradd, roedd mynychu cyfarfodydd staff yr ysgol yn rhan o fy nyletswydd ddyddiol. Roedd hyn yn deimlad rhyfedd, yn bod nôl yng nghanol athrawon!

Roedd y cyfnod yma o weithio yn Nhregaron yn grêt oherwydd gan fy mod wedi cael fy magu yn yr ardal, roeddwn i’n adnabod rhan fwya’r bobl a’r plant a oedd yn defnyddio’r llyfrgell. Braf oedd gweithio gyda staff yr ysgol hefyd. Gallwn i adrodd sawl stori am yr hwyl a’r drygioni ro’n ni’n cael! Yn anffodus, oherwydd y toriadau ariannol, bu’n rhaid i’r llyfrgell gau.

Yn sgil hyn, cefais gynnig swydd yn Llyfrgell Aberystwyth. Newid byd yn wir oedd symud o dref fach fel Tregaron i lyfrgell llawer mwy. Aeth rhyw flwyddyn heibio o weithio yn y Llyfrgell wedyn cefais ddyrchafiad i fod yn Rheolwr y gangen - rôl rwy’n hynod o falch ohoni. Un agwedd o’r swydd rwyf wrth fy modd fwyaf â hi yw cwrdd â phobl a chynnal gweithgareddau ar eu cyfer. Mae siarad gyda’r cyhoedd a helpu nhw gyda chwestiynau yn rhoi pleser mawr i mi.

O ddydd i ddydd, rwy’n rhedeg cangen Aberystwyth ac yn sicrhau bod digon o staff ar gael, bod y lle yn daclus a bod yr arddangosfeydd yn ddeniadol a chyfredol. Mae llawer o fy amser yn mynd ar weithio tu ôl i’r ddesg gan ddelio â chwsmeriaid. Tu fewn i’r llyfrgell, ceir llawer mwy na llyfrau - mae gennym ni DVD’S, CD’s, cyfrifiaduron lle gallwch argraffu eich gwaith a hefyd sganiwr.

Datblygiadau newydd

Agwedd ddiddorol ar fy ngwaith yw trefnu gweithgareddau yn y llyfrgelloedd ar gyfer y sir gyfan. Dros y misoedd diwethaf, rydym fel staff wedi gweithio’n galed i greu gwefan newydd; os nad ydych chi wedi ei weld, ewch i wefan y sir a chliciwch ar ‘Llyfrgell Ceredigion’. Yn ogystal â hyn, rydym wedi creu tudalen Facebook; ‘Llyfrgell Ceredigion Library’, felly cofiwch ein ‘hoffi’ i ddilyn ein hynt a’n helynt!

Beth sy’ mlaen?

Mae llawer o bethau ar y gweill rydyn ni wrthi yn eu trefnu, gan gynnwys Sialens ddarllen yr Haf ac Wythnos Llyfrgelloedd.

• Mae Sialens ddarllen yr Haf yn agored i bob plentyn oedran ysgol gynradd. Y sialens yw i ymweld â llyfrgell o leiaf pedwar gwaith dros wyliau’r haf a benthyg dau lyfr neu fwy yn ystod pob ymweliad. Yn dilyn pob ymweliad, bydd gwobr fach ar gael megis sticeri neu nod lyfr. Unwaith y bydd y plentyn wedi cwblhau’r her, bydd yn derbyn medal a thystysgrif. Mae’r sialens hon yn boblogaidd bob blwyddyn ac roedd bron 800 o blant wedi ei chwblhau y llynedd. Byddwn yn lansio’r sialens eleni ar ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf. Felly, blant Ceredigion, beth amdani? Ydych chi’n hoffi darllen? Ydych chi’n gêm am sialens dros yr haf? Ewch i unrhyw lyfrgell yng Ngheredigion ac ymunwch yn yr hwyl!

• Bydd ‘Wythnos Llyfrgelloedd’ yn cael ei ddathlu ym mis Hydref, ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn trefnu gweithgareddau. O blith y rhain bydd Noson Goffa T. Llew Jones. Y gŵr gwadd bydd y Prifardd Ceri Wyn Jones a bydd eitemau gan Griw o Actorion Theatr Felinfach. Dewch draw i ymuno yn y dathlu!

Mwy na llyfrau

Mae llawer o adnoddau ar gael ar ein gwefan, o chwilio am lyfrau i newyddion, e-lyfrau ac adnewyddu llyfrau.

Oeddech chi’n gwybod bod modd lawr lwytho llyfrau a llyfrau siarad o’n ap ‘Borrowbox’ am ddim - ie, am ddim cofiwch. Hefyd, beth am lawr lwytho cylchgronau tebyg i ‘Ok’ a ‘BBC Good Food’, oll am ddim!

I bobl sydd yn dysgu gyrru, mae’r gwasanaeth ‘Theory Test Pro’ ar gael am ddim yn Llyfrgelloedd Ceredigion. Mae hwn yn efelychiad ar-lein realistig iawn o brofion gyrru theori'r DU ar gyfer pob categori o gerbyd a gellir ei ddefnyddio ar-lein, yn eich cartref.

Ewch i’ch llyfrgell leol ac ymaelodwch - mae gan y llyfrgell mwy i’w gynnig na dim ond llyfrau!

I gael mwy o wybodaeth ar beth sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Ceredigion, ymwelwch â llyfrgelloedd.ceredigion.gov.uk, dilynwch ‘Llyfrgell Ceredigion Library’ ar Facebook, e-bostiwch llyfrgell.library@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633717.

 

 

11/07/2018