Rwy’n dod o Brandenburg, tref hardd gyda llynnoedd ac afonydd o’i hamgylch tu allan i Berlin yn yr Almaen, ble mae fy nheulu yn dal i ffermio. Cefais fy nghodi a’m magu gyda dealltwriaeth am bwysigrwydd draeniad y tir i amaethyddiaeth a ffermio. Sbardunodd hyn fy niddordeb mewn peirianneg o oedran cynnar.

Graddiais o Goleg Peirianneg Berlin yn 1987, gan arbenigo wedyn mewn adeiladwaith cyffredinol i adeiladwaith priffyrdd ac wedyn draeniad tir. Daeth Wal Berlin i lawr yn 1989. Dyma amser o newidiadau mawr a bu llawer o gyfleoedd i ddatblygu’r economi. Buais ynghlwm mewn nifer o brosiectau, gan gynnwys adeiladwaith yr Autobahn (y draffordd) presennol ac adeiladwaith rhwydwaith newydd carthffosiaeth yn, ac o amgylch Berlin.

Yn 2003, symudodd fy nheulu a finnau i Gymru a setlo yn ardal brydferth Ceredigion. Yn 2006, dechreuais i weithio fel Technegydd yn yr adran Priffyrdd yng Nghyngor Sir Ceredigion. Ers 2007, dw i wedi bod yn Beiriannydd yn yr adran Draeniad Tir, Cyswllt Cynllunio ac Amddiffyn yr Arfordir, wedi’i enwi nawr fel Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddo

Llifogydd, draeniad tir ac amddiffynfeydd yr arfordir

Ar y dechrau, roeddwn yn rhoi cyngor i’r Adran Gynllunio, fel ymgynghorwr statudol. Roedd hyn yn rhan o’r broses cynllunio ar faterion llifogydd a draeniad cyffredinol. Hefyd, fe wnes i ddelio gyda problemau llifogydd lleol, draeniad tir a gwaith amddiffyn yr arfordir.

Ar ôl llifogydd haf 2007 yng Nghymru, ble roedd glaw eithriadol o drwm wedi achosi fflachlifau mewn mannau o Gymru ac Afon Hafren yn gorlifo ei glannau, cafodd proffil llifogydd ei godi o fater lleol i fater cenedlaethol. Oherwydd hyn, datblygodd fy nyletswyddau yn syfrdanol. Roedd angen i mi fod yn ymgynghorwr ar y deddfwriaeth oedd yn cael ei gyflwyno.

Fe wnes i fynychu gweithdai a chyfarfodydd llywio i gynrychioli a thrafod ar ran y Cyngor. Roedd hyn yn golygu fy mod yn ymwneud yn helaeth â dylanwadu ar syniadau ac atebion i'r ddeddfwriaeth, strategaethau, polisïau a chynlluniau newydd mewn perthynas â rheoli risg llifogydd.

Fy nyletswyddau

Ar y foment, mae fy amser yn cael ei rannu rhwng bod yn y swyddfa a theithio ar draws y sir yn cynnal ymweliadau safle a siarad â thrigolion lleol.

Rwy’n sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda Strategaeth Genedlaethol Reolaeth Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordir yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio holl lifogydd Ceredigion. Mae rhan o’r ddyletswydd yma yn golygu rhoi caniatâd am unrhyw waith i’r cwrs dŵr cyffredinol. Mae hyn yn sicrhau bydd y gwaith ddim yn effeithio’r cwrs dŵr neu’r amgylchedd yn waeth nag yw’n barod, ac i ddiogelu yn erbyn unrhyw gynnydd mewn risg llifogydd i drydydd parti.

Mae cyrsiau dŵr naturiol yn digwydd i ddraenio’r tir ac i gynorthwyo a chefnogi bywyd planhigion ac anifeiliaid. Yn gyffredinol, mae cwrs dŵr yn unrhyw sianel ble mae dŵr yn llifo trwyddo; gall fod yn naturiol neu o waith dyn, ar yr arwyneb neu o dan y ddaear (fel mewn cylfat). Gyda’r helaeth o’r sir yn wledig, gyda digonedd o gyrsiau dŵr naturiol ac o waith dyn, medrwch ddychmygu pa mor brysur gall y gwaith fod o gynnal ymweliadau safle ar gyrsiau dŵr allweddol a chyfathrebu â’r cyhoedd, contractwyr, datblygwyr a pherchnogion tir.

Cydweithio gyda partneriaid

Mae’r angen i gyfathrebu i amrywiaeth eang o bobl yn angenrheidiol yn fy rôl; rwy’n cysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gynlluniau partneriaeth.

Rwy’n darparu gwybodaeth i swyddogion o fewn adrannau gwahanol y Cyngor ynglŷn â draenio tir, llifogydd ac erydu arfordirol, systemau draenio cynaliadwy trefol a materion eraill yn gysylltiedig â dŵr i’w helpu i asesu sefyllfaoedd, problemau a chwynion. Dw i hefyd yn darparu cyngor arbenigol penodol a gwybodaeth i Gynghorwyr, Cynghorwyr Cymuned a chynrychiolwyr llywodraeth ar y materion yma. Weithiau, mae’n eithaf tebyg i waith ditectif, trwy ddod o hyd i ffeithiau hanfodol, negodi a datrys problemau.

Oherwydd gofynion newydd a newidiadau i’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio llifogydd ac erydu arfordirol, rwy’n sicrhau fy mod ar gael i ddiweddaru’r gwasanaethau. Rwy’n darparu cyngor ar sut i weithredu polisïau, lleihau a rheoli’r risg o lifogydd neu diwygio polisïau presennol. Nid yw’n gynaliadwy neu’n dderbyniol i barhau i adeiladu rhagor o systemau draenio ac amddiffynfeydd mwy o faint.

Roeddwn i’n rhan o’r cynlluniau amddiffyn arfordirol yn Aberaeron a’r Borth. Mae’r cynlluniau yma wedi galluogi’r ddwy ardal i ddelio’n well gyda bygythiad cynyddol y mae’r cefnfor yn peri ar ein hardaloedd arfordirol.

Efallai bod nifer o bobl yn meddwl bod fy nyletswyddau yn flaenoriaeth yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, pan mae’r risg o lifogydd a stormydd yn cynyddu. Y realiti yw bod rheoli’r holl ffynonellau ac erydu arfordirol, gosod nodau ac amcanion, gweithredai a chydweithio â chynllunwyr argyfwng ac Awdurdodau Lleol sy’n arwain ar lifogydd, yn dasg barhaus trwy gydol y flwyddyn.

Byddwch yn barod

Gall llifogydd niweidio bywydau pobl, cartrefi a’u bywoliaeth. Gall y rheini sy’n cael eu heffeithio deimlo’n isel tu hwnt, o dan straen ac yn ansicr ble i droi am help a gwybodaeth.

Mae gan y Cyngor rai pwerau, ond yn y pendraw, dim cyfrifoldeb y Cyngor yw gwaith cynnal a chadw ar gyrsiau dŵr cyffredinol. Mae’r Cyngor yn rheoleiddio, goruchwylio ac yn cynghori ar waith angenrheidiol a’r cyrsiau dŵr cyffredinol i atal llifogydd yn y dalgylch. Fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb, cost y gwaith cynnal a chadw neu waith trwsio yn cwympo i berchnogion tai ar lan yr afon. Rwy’n darparu'r wybodaeth yma i’r cyhoedd a’r cymunedau trwy gyflwyniadau ffurfiol ac ymgysylltiadau siarad yn gyhoeddus.


Am fwy o wybodaeth ar reoli'r arfordir a pherygl llifogydd, ewch i’r wefan: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/rheolir-arfordir-a-pherygl-llifogydd/

Does dim dau ddiwrnod yr un peth yn fy rôl ac er bod y swydd yn anodd ac yn heriol ar adegau, mae’n wobrwyol iawn. Pan dw i’n gwybod fy mod yn helpu i sicrhau bod datblygiad newydd yn cynnwys systemau ddraenio cynaliadwy, a bod trigolion yn gwneud cymaint ag y medrant i amddiffyn eu heiddo, a’n cyfyngu’r niwed i’n sir hardd, mae’n rhoi teimlad personol o foddhad i mi.

 

28/11/2018