Ar Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg, 07 Rhagfyr 2022, mae Comisiynydd y Gymraeg yn annog sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru i gynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae gan siaradwyr Cymraeg hawl i gael gwasanaethau Cymraeg heb orfod gofyn amdanynt. Safonau'r Gymraeg sydd wedi creu'r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu'r safonau o gynghorau sir i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru. 

Mae Cyngor Sir Ceredigion, drwy weithredu Safonau’r Gymraeg, wedi bwrw ati i gynllunio gwasanaethau yn Gymraeg, ac yn awyddus i roi gwybod i drigolion Ceredigion bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. Mae'r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu'n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith bob dydd.

Ar ddiwrnod hawliau’r Gymraeg, mae’r Cyngor yn dymuno tynnu sylw at yr hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gyfathrebu gyda’r Cyngor. Mae’n gyfle i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg, ac i annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny sydd ar gael iddynt. Wrth gysylltu â’r Cyngor, mae gennych chi hawl i fanteisio ar y canlynol:

  • Dogfennau yn Gymraeg 
  • Ffurflenni yn Gymraeg 
  • Gwefannau yn Gymraeg 
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
  • Arwyddion yn Gymraeg 
  • Gwneud cais am swydd yn Gymraeg 
  • Peiriannau hunanwasanaeth yn Gymraeg 
  • Defnyddio'r Gymraeg mewn derbynfa
  • Llythyrau ac e-byst yn Gymraeg
  • Defnyddio'r Gymraeg ar y ffôn

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg: “Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i ni gyd, mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel cenedl, yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu’r rheini sy’n swil eu Cymraeg. Mae’n gweithwyr ni yn ddwyieithog, yn gyfeillgar ac yn hynod amyneddgar, felly sicrhewch eich bod yn gwneud defnydd o’r iaith drwy gysylltu â ni yn Gymraeg, boed hynny ar y ffôn, drwy e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Manteisiwch ar y cyfle i ymarfer a chryfhau eich Cymraeg.”

Fel rhan o godi ymwybyddiaeth, mae'r Cyngor wedi llunio fideo o'r hawliau sydd gennych chi wrth gyfathrebu gyda'r Cyngor. Gwyliwch y fideo yma: https://youtu.be/3V2hegJO1mY

Gallwch gefnogi ymgyrch diwrnod hawliau’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenTiHawl neu ewch i wefan comisiynyddygymraeg.cymru/

Os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion wrth geisio defnyddio gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, cysylltwch â cymraeg@ceredigion.gov.uk

 

 

01/12/2022