Mae Canolfan Bwyd Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mharc Busnes Horeb, Llandysul yn agor ei drysau i’r cyhoedd ar 26 Mehefin, o 10yb i 4yp. Mae’r Ganolfan yn ganolfan technoleg bwyd pwrpasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.

Felly, os ydych chi wedi ystyried beth yn union sydd yn digwydd yng Nghanolfan Bwyd Cymru, dyma eich cyfle i gael yr ateb! Bydd teithiau o gwmpas y ganolfan yn cynnig cipolwg o’r cyfleusterau amrywiol i’w llogi a’r offer sydd ar gael. Bydd teithiau yn cychwyn ar yr awr o 10yb ymlaen, gyda’r daith olaf yn dechrau am 3yp.

Mae gan y Ganolfan ‘Hwb Arloesi a Gweithgynhyrchu’ cyfleusterau heb eu hail i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu cynnyrch newydd neu ddiwygio cynnyrch sydd eisoes yn bodoli i gwrdd â gofynion cwsmeriaid newydd. Diben y cyfleuster technegol yw galluogi cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu cynhyrchion ar raddfa ddiwydiannol fach er mwyn masnachu prawf neu ddechrau cynhyrchu i farchnad newydd neu sy’n cynnyddu. Mae Technolegwyr Bwyd Arbenigol wrth law i gynorthwyo’r defnydd o’r holl gyfarpar ac ardaloedd prosesu, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad gydol y broses; cynorthwyir i gynhyrchu’ch ryseitiau ar raddfa fwy, hyfforddi i ddefnyddio’r offer, gosod amodau prosesu - i gyd yn hanfodol am gynhyrchu bwyd.

Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru rôl strategol wrth roi cymorth technegol i Ddiwydiant Bwyd Cymru ac fe’i sefydlwyd ym 1996 gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’i strategaeth Datblygu Economaidd. Yn 2001, diolch i gyllid gan Gynllun Her Cyfalaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, agorwyd Adeilad Ymchwil a Datblygu gwerth £1.7 miliwn. Mae gan yr adeilad hwn ardaloedd prosesu, yr holl gyfarpar angenrheidiol yn ogystal â chyfleusterau cynhyrchu ac maen nhw ar gael i’w llogi at ddibenion masnachol. Defnyddir y ganolfan i lansio syniadau newydd ac arloesol hefyd yn y Diwydiant Bwyd-Amaeth yng Nghymru, gan gydweithio’n agos â Chyfarwyddiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio, "Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o’r gefnogaeth a’r cyfarwyddyd gall Canolfan Bwyd Cymru cynnig i gynhyrchwyr bwyd lleol a’r syniadau arloesol sydd wedi dod o’r cyfleoedd ar gael yn y ganolfan. Felly, os ydych yn ystyried dechrau busnes bwyd eich hunan neu os gennych syniad newydd chi eisiau i arbenigwyr diwydiannol i helpu datblygu, wedyn mae’r diwrnod agored yn gyfle delfrydol i chi siarad â thechnolegwyr bwyd a fydd ar gael i gynnig cyngor. Mae’r diwrnod agored hefyd yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion i alw mewn i gymryd taith i gael gwybod mwy am y cyfleusterau arloesol sydd ar ei throthwy yng Nghanolfan Bwyd Cymru.”

Bydd y diwrnod agored hefyd yn gyfle i fusnesau bwyd gael mwy o wybodaeth ar sut gall Canolfan Bwyd Cymru helpu gyda hyfforddiant Diogelwch Bwyd a’r Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth HELIX. I gael mwy o wybodaeth am y diwrnod agored, ymwelwch â gwefan Canolfan Bwyd Cymru neu ffoniwch 01559 362230.

13/06/2018