O 9 Tachwedd 2020 ymlaen, caniateir i hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do cyn belled â'i fod wedi'i drefnu gan glwb neu gorff cydnabyddedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau rhestr o Gwestiynau Cyffredin sy'n ymwneud â chyfleusterau cymunedol. 

Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae angen i ni ystyried o hyd a ddylem gwrdd y tu fewn i sicrhau ein bod yn lleihau cyswllt ag eraill y tu allan i'n cartrefi estynedig. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adolygu'r sefyllfa ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein cymunedau rhag trosglwyddo’r haint ymhellach ac felly dylid rhoi ystyriaeth ofalus cyn cychwyn gweithgaredd dan do mewn lleoliadau cymunedol ar yr adeg hon.

Parhewch i gwrdd dros y we lle bynnag y bo modd ac wrth drefnu gweithgareddau dan do cadwch eich sesiynau'n fyr ac yn fach o ran nifer y cyfranogwyr, gwnewch yn siŵr bod pawb yn cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill, yn gwisgo gorchudd wyneb ac yn cael eu hannog i olchi a glanweithio eu dwylo yn rheolaidd.

Cyn ailagor cyfleuster cymunedol, rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol sicrhau eu bod yn ‘Ardal Di-Covid’. Os ydych wedi penderfynu cadw eich cyfleuster ar gau, hyd nes y teimlwch ei fod yn ddiogel i'w ailagor, paratowyd dogfen ganllaw i'ch cefnogi.

Bydd Panel Ymgynghorol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn cynnal Sesiwn Wybodaeth arall ar ddydd Mercher y 18 Tachwedd 2020 am 7pm i drafod yr hyn fydd angen i ni ei ystyried i gadw Ceredigion yn ddiogel wedi’r Cyfnod Atal Byr. Cofrestrwch yma. Bydd dolen cyfarfod Zoom yn cael ei hanfon atoch cyn y cyfarfod ar-lein. Os ydych yn cael anhawster gyda'r ddolen, bydd rhif deialu ar gael hefyd.

Mae'r pecyn o adnoddau defnyddiol ar wefan Cyngor Sir Ceredigion wedi'i ddiweddaru. Yn ogystal â hyn, mae'r Panel yn cyfarfod yn rheolaidd i ddarparu cefnogaeth ac ymateb i ymholiadau, anfonwch unrhyw gwestiynau sydd gennych at Dîm CAVO drwy gen@cavo.org.uk neu ffoniwch 01570 423232.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

09/11/2020