Er nad yw eira wedi bod mor drwm â'r disgwyl mewn rhai mannau o’r sir, mae'r gwynt wedi bod yn achosi peth problemau dros nos yng Ngheredigion, gan gynnwys coed yn cwympo a lluwchfeydd eira ac rydym nawr yn profi glaw rhewllyd mewn rhai ardaloedd.

Mae glaw rhewllyd hefyd wedi dechrau cwympo mewn rhai mannau o’r sir amser cinio heddiw, dydd Gwener, 02 Mawrth a gall achosi heolydd i ddod yn frawychus o beryglus. Rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn teithio, heblaw am deithio sy’n hollbwysig, ac y dylid bod yn hynod o ofalus os bod teithio'n angenrheidiol.

Mae criwiau Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio drwy'r nos gan geisio cadw'r llwybrau sylfaenol yn glir. Mae criwiau priffyrdd wedi bod yn defnyddio fflyd o gerbydau graeanu 12 (wedi'i gyfuno ag aradr eira) i gadw Ceredigion yn symud cymaint â phosib, yn ogystal a 3 chwythwr eira, a chymorth contractwyr allanol.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Technegol, "Yng Ngheredigion, gwelsom llwchfeydd eira a gwyntoedd uchel, gan gynnwys eira mewn mannau gogleddol y sir. Gyda gweithdrefnau yn eu lle, roedd y criwiau'n gweithio'n ddiflino i wneud yr hyn y gallent ond roedd yr amodau'n anodd dros nos. Mae gwaith yn parhau heddiw a bydd adnoddau'n cael eu defnyddio gan bennu blaenoriaethau.”

Caewyd 6 ffordd am 5:30 y bore yma, gyda chriwiau'n gweithio i sicrhau bod ceir yn gallu mynd ar y ffyrdd cyn ailagor. Yng ngolau cyntaf ddydd Gwener, daethpwyd â chontractwyr â chwythwyr eira i fynychu'r llwybrau yr effeithiwyd gan eira, a hefyd delio â coed oedd wedi syrthio ar wahân.

Am 1yp, yr A44; A4120 Pisgah i Bonterwyd a’r B4343 Tregaron i Bontrhydfendigaid oedd dal ar gau. Gellir mynd ar hyd yr holl lwybrau cynradd eraill sydd wedi eu graeanu gyda gofal mawr iawn.

Oherwydd y cyfnod parhaus o dywydd gaeafol, bydd y Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion ar gau ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 Mawrth.

Mae tebygrwydd y bydd casgliadau gwastraff yn cael eu heffeithio wythnos nesaf hefyd. Bydd hyn yn ddibynnol ar mynediad ac argaeledd adnoddau sy'n deillio o gefnogaeth a ddarperir gan y tîm gwastraff i ymateb y Cyngor i effeithiau'r tywydd.

Gan fod yr amodau a'r lefel o wasanaeth y mae'r Cyngor yn gallu ei ddarparu felly yn agored i newid ar fyr rybudd, darperir diweddariadau rheolaidd ar wefan y Cyngor a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae gwybodaeth ar gael hefyd dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa ar 01545 572572. Hoffai’r Cyngor, unwaith eto, ddiolch i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn yr amgylchiadau heriol hyn.

Mae gwybodaeth am sefyllfa’r tywydd yn cael ei ddarparu gan y Swyddfa Dywydd www.metoffice.gov.uk/

02/03/2018