Gofynnwyd i Grŵp Gyswllt o ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.

Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 10 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob rhiant.

Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

11/12/2020