Gofynnwyd i ddisgyblion mewn Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gynradd Penllwyn, Capel Bangor hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.
Gofynnwyd i'r Grŵp Cyswllt hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.
- Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
tymheredd uchel - peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.
11/09/2020