Gofynnwyd i disgyblion mewn un Grŵp Cyswllt yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.

Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o'r achos hyn aros gartref am 10 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Am fod safle’r Ysgol ar gau am weddill y tymor, bydd y disgyblion yn parhau i gael eu dysgu o bell am y cyfnod yma

Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob un o’r rhieni.

Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

14/12/2020