O ganlyniad i ddau achos positif o COVID-19 yn Ysgol Gyfun Penweddig mae disgyblion o fwy nag un grŵp cyswllt ynghyd a disgyblion sy’n teithio ar un bws angen hunan ynysu am 14 diwrnod.

Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o'r achos hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd y disgyblion yn cael eu dysgu o bell am y cyfnod yma.

Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi'u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob un o’r rhieni yma a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.

Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

25/11/2020