Ar fore dydd Sadwrn, 29 Medi, syfrdanwyd tref Aberteifi wrth i dros 100 o blant ymgynnull i berfformio dawns Fflashmob. Cafwyd perfformiad o’r ddawns a grëwyd yn arbennig fel rhan o Ŵyl y Cynhaeaf y dref ar y Cei, yn y Castell ac ar Sgwâr y Dref gyda cherddoriaeth Ail Symudiad yn gyfeiliant iddynt.

Bu’r plant o ysgolion cynradd Aberporth, Aberteifi, Beulah, Cenarth, Llechryd, Penparc a T.Llew Jones yn paratoi ar gyfer y ddawns dros yr wythnosau diwethaf yn eu hysgolion unigol gydag un ymarfer gyda’i gilydd ar y dydd Iau cyn y perfformiad yng Nghastell Aberteifi.

Crëwyd y syniad o Fflashmob gan bwyllgor Gŵyl y Cynhaeaf gyda chefnogaeth Cered: Menter Iaith Ceredigion. Swyddogion Creadigol Theatr Felinfach sef Lowri Briddon a Sioned Thomas fu’n gyfrifol am lunio’r ddawns ac am hyfforddi’r plant i gyd.

Bu defnyddio cyfeiliant y grŵp Ail Symudiad nid yn unig yn gyfle i godi ymwybyddiaeth plant o gerddoriaeth Cymraeg ond hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant y band lleol a hwythau yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu.

Dywedodd Rheolwr Cered, Non Davies, “Roedd gweld cymaint o blant lleol yn dawnsio gyda’i gilydd i gerddoriaeth Cymraeg yn brofiad gwych. Yn ogystal â rhieni ac athrawon llwyddodd y digwyddiad i ddenu cynulleidfa o bobl leol ynghyd ag ymwelwyr i’r dref a braf oedd clywed seiniau Ail Symudiad yn atseinio trwy’r dref ar fore Sadwrn.

“Hon oedd y drydedd Ŵyl y Cynhaeaf i’w chynnal yn y dref. Nod yr Ŵyl yw creu cyfleoedd i bobl leol fwynhau celfyddyd Gymraeg a Chymreig trwy amryw gyfrwng boed yn waith celf, llenyddiaeth, barddoniaeth neu gerddoriaeth. Roedd y Fflashmob yn rhywbeth gwbl newydd ac yn rhywbeth fydd yn aros yn y cof am beth amser.”

 

03/10/2018