Gofynnwyd i ddisgyblion Blynyddoedd 12 ac 13 Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.

Gofynnwyd i'r Grŵp Cyswllt i hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion hyn a rhai staff aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd y disgyblion yn cael eu dysgu o bell am y cyfnod yma.

Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy'n teithio ar yr un bws â'r achos positif a gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 14 diwrnod hefyd fel mesur rhagofalus yn y lle cyntaf. Daw'r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Bro Pedr.

Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni a chynghorir pob rhiant fod yn wyliadwrus ac i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

08/12/2020