Ar ddydd Llun 24 Chwefror 2020, cafodd cwmni Mid Wales Activity Ltd., Pontrhydfendigaid, ddirwy o £30,000 gan farnwr yn Llys y Goron Abertawe. Roedd hyn ar ôl iddo bledio’n euog i un cyhuddiad a wnaed o dan Adran 3(2) Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle etc 1974.

Daeth Cyngor Sir Ceredigion â’r erlyniad gerbron y Llys ar ôl ymchwiliad helaeth i ddamwain angheuol a ddigwyddodd ar y trac ym mis Mehefin 2018, pan fu i Joshua Pillinger, 24 oed, golli rheolaeth ar ei gar a dioddef anafiadau angheuol i’w ben.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd sy’n gweithio yn nhîm Diogelu’r Cyhoedd. Daethant i’r casgliad bod Mid Wales Activity Ltd. wedi methu â sefydlu systemau priodol a digonol er mwyn rheoli Iechyd a Diogelwch mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yn y cyfleuster a oedd o dan reolaeth y Cwmni yn hytrach na chorff chwaraeon moduro cydnabyddedig.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Gyllid a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, ei fod yn cydymdeimlo’n ddiffuant gyda theulu Mr Pillinger. Aeth yn ei flaen i ddweud: “Rwy’n ddiolchgar i’r swyddogion a fu’n rhan o’r ymchwiliad. Yn ogystal â dwyn y mater gerbron y Llys, maent hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod safleoedd hamdden yng Ngheredigion yn ddiogel ac yn cwrdd â'r safonau gofynnol fel y gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau eu hunain heb y risg o anaf diangen neu waeth.”

Wrth gyhoeddi’r ddedfryd, dywedodd y Barnwr Keith Thomas wrth y llys ei fod yn derbyn bod y Cwmni wedi methu ag ymgymryd â phroses reoli neu asesiad risg a oedd yn nodi’r peryglon perthnasol ar y trac rasio. Nododd nad oedd y Cwmni wedi cynnal unrhyw fath o asesiad o ran gallu’r cyfranogwyr, nid oedd yn mynnu defnyddio cyfarpar diogelu ac nid oedd ganddo gynlluniau er mwyn ymdrin ag argyfyngau pe byddent yn digwydd.

27/02/2020