Ar 27 Tachwedd 2020, a 22 Rhagfyr 2020, clywodd Llys y Goron apêl gan Mr Dorian Wyn Jones, o Dorwan Kennels, Penrheol, Talsarn, yn ymwneud ag euogfarnau am fethu â chydymffurfio ag amodau trwydded bridio cŵn.

Yn flaenorol, yn Llys Ynadon Aberystwyth, dedfrydwyd Mr. Dorian Wyn Jones yn euog o redeg sefydliad bridio cŵn trwyddedig a oedd yn cynnwys ymhell dros y nifer a ganiatawyd gan ei drwydded a chadw’r cŵn o dan ei ofal mewn amodau gorlawn.

Clywodd y Llys dystiolaeth fod Mr Dorian Wyn Jones wedi cael trwydded ar gyfer 33 o gŵn. Fodd bynnag, yn ystod ymweliad a gynhaliwyd gan Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ar 7 Awst 2019, daethpwyd o hyd i 91 o gŵn ar y safle, ac eithrio cŵn bach, yn groes i'w drwydded. Roedd y cŵn yn cael eu cadw mewn llociau nad oeddent o ddigon o faint ar gyfer nifer y cŵn a oedd yn cael eu cadw ynddynt.

Cadarnhaodd Llys y Goron y gollfarn bod y cŵn o dan ofal Mr Jones yn cael eu cadw mewn amodau gorlawn, yn groes i'r safonau gofod gofynnol sy'n ofynnol gan amodau'r drwydded. Cafodd euogfarnau eraill eu gwrthdroi.

Ar 9 Chwefror 2021, cafodd Mr Dorian Wyn Jones ddirwy o £1000 am y drosedd gorlenwi, a gorchmynnwyd iddo dalu costau cyfreithiol gwerth £2500.

09/04/2021