Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch trigolion ac ymwelwyr am yr holl waith caled sy’n cael ei wneud i helpu i gadw’r sir yn lân. Mae Ceredigion yn ffodus o gael grwpiau lleol sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel sydd yn sicr yn cael effaith mawr yn yr ardal leol.

Ers mis Ebrill 2018, mae’r cyngor wedi arwain 28 o ddigwyddiadau casglu sbwriel gyda 260 o bobl yn mynychu gan roi 556 oriau o’u hamser a chael gwared ar 685kg o sbwriel. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn bennaf ar draethau, coetiroedd a gwarchodfeydd.

Mae’r cyngor yn gallu darparu offer ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn helpu i gadw'r sir yn lân. Gall y cyngor ddarparu teclynnau casglu sbwriel, cylchynau a sachau, yn ogystal â gwneud trefniadau ar gyfer cael gwared a deunyddiau a gesglir fel rhan o gasglu sbwriel. Felly, os ydych yn teimlo’n frwdfrydig ac yn meddwl gallwch helpu, cysylltwch â ni!

Mae’r nifer o bobl sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol wedi cynyddu. Ar lefel leol, gall hyn ymestyn o ddelio â gwastraff yn gyfrifol i gymryd rhan mewn casglu sbwriel. Mae casglu sbwriel yn enghraifft o ethos Caru Ceredigion, gyda chymunedau lleol yn cymryd rôl ragweithiol a chadarnhaol mewn materion sy’n bwysig neu sy’n achosi pryder iddynt.

Mae casglu sbwriel ar draws Ceredigion yn digwydd mewn sawl ffurf gyda’r cyhoedd yn ei wneud yn rheolaidd fel unigolion neu fel rhan o grŵp. Mae rhai neu ar sail ad-hoc weithiau gyda chydweithwyr, teulu, ffrindiau neu fel rhan o ddigwyddiad cymunedol. Mae rhai pobl yn hel sbwriel fel rhan o weithgareddau bob dydd fel cerdded y ci.

Yn ogystal â chymunedau lleol, mae’r cyngor yn cydweithio’n agos gyda grwpiau sydd â diddordeb i gadw Ceredigion yn lân. Mae hyn yn cynnwys grwpiau cenedlaethol fel Cadwch Gymru’n Daclus.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai. Meddai, "Rydym yn ffodus iawn yng Ngheredigion bod y mwyafrif helaeth o bobl leol ac ymwelwyr yn gwerthfawrogi, parchu a mwynhau'r amgylchedd adeiledig a naturiol lleol. Er bod nifer yr achosion o broblemau megis tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn gymharol isel, pan fyddant yn digwydd, mae'n wych gweld bod cymunedau am gyfrannu at wella pethau'n lleol a dylid eu cymeradwyo'n fawr am wneud hynny.”

I gael fwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch ar Ganolfan Cyswllt ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

04/03/2019