Mae Maisie, disgybl ym mlwyddyn 5 yn Ysgol Bro Sion Cwilt, wedi bod yn greadigol yn ystod y cyfnod clo drwy greu eitemau wedi'u brodio sy’n darlunio gwahanol elfennau o'r cyfnod clo. Bu i Maisie gynllunio a gwneud y creadigaethau gyda chymorth ei modryb.

Mae pob creadigaeth yn adrodd stori; gofynnodd Maisie i aelodau o’i chymuned fod yn rhan o'r prosiect drwy ddarparu rhai penillion am y cyfnod clo. Ychwanegwyd y cyfraniadau hyn ynghyd ag enwau'r holl ddisgyblion a'r staff.

Bydd yr eitemau’n cael eu harddangos y tu mewn i’r ysgol i ddathlu dewrder y GIG a’r gweithwyr allweddol ac i ddiolch i’r disgyblion a’r staff am aros adref yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal â’r arddangosfa hon, mae Maisie wedi dylunio logo newydd a fydd yn cael ei gynnwys ar ffedogau’r ysgol ac ar ddillad staff.

02/07/2020